Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/224

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.

BLYNYDDOEDD DECHREUAD CYFNEWIDIAD YN NGWEDD EI WEINIDOGAETH :1833—1840.

AGWEDD ISEL AR GREFYDD YN Y WLAD AR OL YR ADFYWIAD—CYNNYDD DIRFAWR AR ANNUWIOLDEB—DIOFALWCH CREFYDDWYR—ADRODDIAD O'I DEIMLADAU EI HUNAN YN NGWYNEB HYNEFFEITHIAU HYNY ARNO—YMDEIMLAD DWYS Â'R PWYSIGRWYDD O RODDI POB MANTAIS I'R EFENGYL WRTH EI CHYFLWYNO GER BRON Y BYD—CYMDEITHASFA Y BALA, 1834—PREGETHU AR "DDAMMEG Y FFIGYSBREN DIFFRWYTH "—FFURF EI BREGETHAU, FEL CYFANSODDIADAU, YN NEWID YN DYFOD YN WRTHDDRYCH EIDDIGEDD RHYW RAI RHAGFARNLLYD—CYMMERADWYO SCOTT AR Y PROPHWYDI—EI BREGETHAU YN DYFOD YN FWY—FWY CYFEIRIADOL—CYMDEITHASFA Y BALA, 1835—TRADDODI YR ARAETH AR NATUR EGLWYS YNO—PREGETH HYNOD MR. ELIAS YNO—PREGETH MR. JOHN JONES—Y CYFARFOD AM WYTH DRANNOETH—SYLWADAU MR. JOHN JONES YN CYFFROI MR. ELIAS—MR. EBENEZER RICHARD YN CYFRYNGU—PREGETH MR. ELIAS YN NGHYMDEITHASFA Y BALA, 1836—YMDRECHIADAU MR. JOHN JONES GYDA'R ACHOS DIRWESTOL—YN DYFOD YN FWY GOBEITHIOL NAG Y BUASAI AM GYMRU CYMDEITHASFA Y WYDDGRUG, 1837—YMWELED A LLUNDAIN AT Y PASG, 1838—LLYTHYR AT GYFAILL WEDI COLLI EI FERCH—TAITH I GYMDEITHASFA ABERGWAEN, 1840—ADGOFION AM Y DAITH HONO—CYMDEITHASFA DOLGELLEU, 1840—PREGETH HYNOD IDDO EF YNO—CYFFRO YN Y WLAD YN NGHYLCH YR ATHRAWIAETH—CYFARFOD MAWR YN CAEL EI DREFNU I FOD YN SI FFLINT, ER PENDERFYNU YR YMRYSONAU YNO—PRYDER MR. JOHN JONES GYDA GOLWG AR Y CYFARFOD HWNW

Yr ydym wedi dilyn Hanes Mr. John Jones, o flwyddyn i flwyddyn, gyda chryn fanylder, hyd nes y mae wedi cyrhaedd canol—ddydd ei oedran, a chyflawnder ei nerth. Yr ydym braidd yn ofni y byddai parhau i fyned rhagom yn yr un modd, hyd yn nod pe byddai genym y defnyddiau at hyny, yn hytrach yn feichus i'n darllenwyr yn gystal ag i ni ein hunain, yn neillduol gan na byddai ond megis ail—adroddiad, drachefn a thrachefn, heb ond ychydig iawn o amrywiaeth, o'r un pethau ag sydd wedi eu dwyn dan sylw genym eisoes. Rhaid edrych