Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/225

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arno, o hyn allan, fel un o brif bregethwyr y Cyfundeb y perthynai iddo, ac yn un yr ystyrid ei bresennoldeb yn amrywiol Gyfarfodydd Misol ei Sir ei hunan, ac yn yr amrywiol Gymdeithasfaoedd yn Ngogledd, ac, hyd y gellid, yn Neheudir Cymru, yn anhebgorol tuag at i'r Cyfarfod gael ei gydnabod gan y bobl yr hyn y buasai yn ddymuunol iddo fod, ac, yn y cyffredin, yn ddigon i wneyd y cymmydogaethau mewn cymhariaeth yn foddlawn, can nad pwy bynnag arall a fyddai yn absennol. Ac fe ymroddodd, am flynyddoedd lawer, i deithio ac i lafurio, gartref ac oddicartref, gyda'r fath egni a chysondeb a dyfalbarhâd, ag nas gallasai neb ateb iddynt heb feddiannu ar gyfansoddiad naturiol o'r fath gadarnaf, ac na buasai neb yn barod iddynt, yn enwedig am y gydnabyddiaeth fechan a roddid iddo ef, heb feddiannu ar fesur annghyffredin o gariad gwirioneddol at y gwaith mawr. Yr oedd efe wedi ei fendithio yn arbenig â'r naill a'r llall; ac nid bechan y fantais a fu o hyny i holl Gymru.

Tua'r amser yr ydym yn awr wedi dyfod ato yn ei hanes, y rhan olaf o'r flwyddyn 1833, a dechreu 1834, yr oedd y wlad yn gyffredin, a Sir Gaernarfon yn neillduol, ar ol y cyffroad mawr a fuasai ar grefydd yn 1832, wedi myned yn hynod o galed ac anystyriol, a'r eglwysi yn rhy gyffredin wedi myned yn nodedig o ffurfiol a marwaidd. oedd meddwdod, er yr holl ymdrech a wneid gyda Chymdeithas Cymmedroldeb, ac er y graddau o welliant a fuasai pan oedd y Cholera yn anrheithio y wlad, yn ymddangos fel yn cymmeryd ail afael mewn cannoedd, a llïaws o broffeswyr, a rhai o honynt wedi bod unwaith yn edrych yn dra gobeithiol, yn cwympo iddo, ac yn tynu dianrhydedd a gwaradwydd ar yr Enw Mawr. Yr oedd anniweirdeb hefyd, y pryd hwnw, yn ymddangos yn cynnyddu yn ofnadwy, ac, mewn llawer cymmydogaeth, yn dechreu gwisgo gwedd haerllucach a mwy digywilydd nag a welsid arno ynddynt odid erioed o'r blaen. Yr oedd yn ymddangos fel pe buasai rhyw galedwch barnol wedi meddiannu y wlad. Yr oedd hyn oll yn peri gofid mawr i feddwl Mr. John Jones. Yn neillduol yr oedd yn gofidio, oblegyd y difrawder a ddangosid gan aelodau eglwysig, ac yn fynych gan flaenoriaid yr achos, yn wyneb hyn oll. I ba le bynnag yr elai, addefid fod yr achos yn isel, a bod gwedd wywedig iawn arno; ond nid ydoedd yn cael braidd mewn un man ystyriaeth a chydnabyddiaeth fod gan grefyddwyr ryw beth i'w wneyd er peri cyfnewidiad; ond yn hytrach ymesgusodiad, yn y