Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/226

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syniad mai rhywbeth i lwyddo yn achlysurol ac nid yn gyson a pharhaus ydyw crefydd, ac nad oedd dim i'w ddysgwyl ond adegau o adfeiliad a dirywiad ar ol adegau o gyffroad ac adfywiad. Ni a ddodwn i mewn yma yr adroddiad a dderbyniasom oddiwrth Mr. William Owen, Penbrynmawr, Llanllyfni, am deimladau Mr. John Jones y pryd hwn, a'r modd y gweithredodd yn y canlyniad

"Mae yn gofus iawn genyf ei glywed yn adrodd wrthyf beth fu yr achos iddo ddechreu pregethu yn ymarferol. Yr oedd,' meddai, 'yn amser isel iawn ar grefydd: ac i bob man lle y byddwn yn myn'd, dyna y sŵn oedd ganddynt, "Wel, rhyw dymhorau a welsom ni ar yr achos erioed; fe ddaw hi eto;" 'nes,' meddai, 'yr oeddwn i wedi diflasu ar eu sŵn. Nid oedd dim amcan ganddynt am gael adfywiad : yr hen flaenoriaid, fel ereill, heb feddwl fod dim i'w wneyd ond gadael iddi a dysgwyl. Wrth ddyfod adref o'm cyhoeddiad, ryw foreu Llun, dechreuais feddwl pa bethau oeddont rwymedig ar grefyddwyr i'w gwneuthur, mewn amger felly, tuag at gael Adfywiad. Meddyliais am amryw ddyledswyddau oeddent ar lawr, ac eisiau eu codi i fynu―rhai o honynt yn ymddangos i mi yn amlwg iawn, ac yn bwysig iawn hefyd. Ar ol dyfod adref, mi a aethum i'm Llyfrgell. Dechreuais edrych ar fy llyfrau, er mwyn gweled a oedd genyf yr un Traethawd ar ryw beth o'r fath. Meddyliais am draethodyn i'r hen Flavel,—"Annogaethau Efengylaidd i Sancteiddrwydd Bywyd."[1] Cefais ynddo lawer iawn o'r un syniadau, ac o'r un Sylwadau, ag yr oeddwn i wedi meddwl am danynt fy hunan, ac yr oedd yn dda iawn genyf eu cael. Dyma fo', meddai, gan ddangos y llyfryn i mi, ' y mae yn werth ei bwysau o aur.' Dyna ei eiriau ef ei hunan wrthyf fi. Ar ol hyny, cyfansoddodd y bregeth ragorol hono ar Ddammeg y Ffigysbren yn y Winllan; a'r canlyniad fu iddo gael troi ei feddwl, yn fwy uniongyrchol, at ddyledswyddau gwrandaẅwyr yr efengyl yn gyffredinol. Adroddodd wrth Mr. John Robinson a minnau, wrth ddyfod o honom adref gyda'n gilydd o'r Bala, o'r Gymmanfa yn yr hon y pregethodd y bregeth

  1. Y mae y "traethodyn," y cyfeirir ato uchod, wedi ei gymmeryd allan o ddiwedd y bregeth olaf, yn y llyfr a elwir, The Fountain of Life Opened, &c. Flavel's Whole Works, Vol. I. 8vn. pages 536—561. London: 1820. Mr. W. Mason a'i dug allan, yn y ffurf hwn, yn y Saesonaeg. Pwy a'i cyfieithodd i'r Gymraeg, nis gwyddom. Fe'i hargraffwyd yn Machynlleth, gan Titus Evans, yn y flwyddyn 1792. Y mae pregeth i'r Parch. Thomas Brooks. "Dydd olaf y Credadyn ei Ddydd goreu," wedi ei hargraffu yn gysylltiedig â'r traethodyn. Nid yw y cwbl ond triugain o dudalenau, deuddeg-plyg. Yr ydym yn tybied y gallai ail-gyhoeddiad i'r gwaith bychan hwn i Mr. Flavel, a fu mor fuddioli ac a werthfawrogid mor fawr gan Mr. John Jones, fod o wasanaeth mawr i grefyddwyr Cymru y dyddiau hyn.