Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/227

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grybwylledig,—Yr ydwyf yn credu pe gwnai y bobl ddigrefydd yr hyn sydd yn eu cyrhaedd hwy, fel y mae Duw yn ei air yn gorchymyn, yr achubid hwynt bob enaid. Ai meddwl yr ydych mai cellwair y mae Duw?' meddai, gan gyfeirio at, ac adrodd amryw adnodau. Clywais ef yn dywedyd, ar ol hyn,—' Yr ydwyf fi, er ys rhagor na dwy flynedd, heb gysgu ond y nesaf peth i ddim, braidd un noswaith, gan bryder pa beth i'w wneyd at achub y bobl; a phan y byddaf yn gallu cysgu ychydig, bydd fy meddwl yn effro gydâ'r pethau. Parodd y gwrthwynebiad a gefais gan rai o'm brodyr i mi chwilio y Bibl yn fanwl ar y Mater; ac nid oes dim sydd i mi yn sicrach nad y wedd ydwyf fi yn geisio roi ar Ddyledswydd dyn' a gymmerir gan Air Duw. Ac yr ydwyf yn awr yn teimlo fy meddwl yn hur foddlawn, wrth weled fod wyneb y weinidogaeth wedi newid cymmaint o'r peth y bu."

Dyma dystiolaeth Mr. William Owen, a dderbyniwyd ganddo o enau Mr. John Jones ei hunan. Clywsom ninau ef, fwy nag unwaith, yn adrodd yr un peth, ac agos yn yr un geiriau. Ond yr hyn, dybygem ni, a wasgai yn drymaf ar ei feddwl ef ac y pryderai yn benar yn ei gylch, y pryd hyn, oedd, yr hyn y cyfeirir ato yn y rhan ddiweddaf o'n dyfyniad o lythyr Mr. William Owen,—tôn y weinidogaeth. Yr oedd efe ei hunan yn credu yr efengyl. Yr ydoedd felly bob amser. Yr oedd ei ffydd yn ddiysgog yn ei haddasrwydd perffaith i amgylchiad pechadur, yr hyn ydyw. Ond y pryd hyn ̧y daeth i deimlo ei haddasrwydd fel moddion, i gyfarfod amgylchiad pechadur diailenedig, er cyfnewid ansawdd ei galon; a'r cysylltiad, yn ordeiniad y Duw mawr, rhwng ymarferiad cyson, cydwybodol, a gonest â'r moddion, gan y pechadur—yr hyn ydyw,—a mwynhȧd o'r fendith. Dyma yr hyn a olygid ganddo yn y dyfyniad uchod,—" Yr ydwyf yn credu pe gwnai y bobl ddi-grefydd yr hyn sydd yn eu cyrhaedd hwy, fel y mae Duw yn ei air yn gorchymyn, yr achubid hwynt bob enaid." Yr oedd yn awr yn fwy hyderus nag erioed yn nghyfaddasrwydd yr efengyl i gyfarfod cyflwr y byd, ac yn sicr yn ei feddwl nad oedd eisiau ond gwneuthur tegwch â hi, er sicrhau annhraethol fwy o ddaioni trwyddi, nag oedd ê yn ganfod oedd yn cael ei wneuthur. Yr oedd y geiriau hyny, yn llyfr y prophwyd Jeremiah, yn ei feddwl yn wastadol: "A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasont fy ngeiriau i'm pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o'u ffordd ddrwg, ac oddi