wrth ddrygioni eu gweithredoedd." Pa fwyaf a feddyliai am y peth, mwy fwy y teimlai yr anhawsder i ymryddhau oddiwrth y dybiaeth fod llawer iawn o fai y wedd isel oedd ar grefydd yn gorphwys ar weinidogion yr efengyl eu hunain; neu, o leiaf, ar y dull un-ochrog, yn ei fryd ef, a gymmerid gan lawer o honynt yn y cyflawniad o'u gwaith mawr. Yr oedd efe ei hunan, er ys blynyddoedd, yn ymgais at roddi gwedd mwy ymarferol i'w weinidogaeth, ac eto yr oedd yn teimlo fod rhyw ddiffyg yn ei ddull yntau; nad ydoedd eto wedi cael gafael ar y modd i gysylltu y pechadur diailenedig, er ei holl anallu fel y cyfryw, â phosiblrwydd cadwedigaeth, a'i adael yn gwbl ddiosgus byth, os colledig yn y diwedd fyddai. Yr ydoedd, er ys amser maith, yn ceisio ymwthio at hyn; ac yr oedd yn awr yn tybied yn gryf, yn credu yn hollol, ei fod wedi cael gafael arno. Clywsom ef yn dywedyd mai pregeth i Mr. Elias, ar ei ol ef, pan oeddent yn dygwydd cyfarfod â'u gilydd yn Llanymddyfri, yn y flwyddyn 1827 (Gwel tu dal. 184, 185, o'r Cofiant hwn), a roddes iddo ef yr awgrymiad cyntaf o'r nodwedd hwn, a ganfyddid ganddo ef yn awr a berthynai i'r efengyl; er nad oedd Mr. Elias wedi rhoddi y cyfeiriad hwnw iddo, ag a deimlid ganddo ef, oedd gyfaddasaf i ddal gwrandaẅwyr yr efengyl yn ddiesgus. Yr oedd y bregeth yn Nghymmanfa y Bala, y cyfeiriwyd ati uchod, Mehefin 12, 1834, wedi ei chyfansoddi ganddo pan oedd y syniad hwn yn newydd ac yn fywiog iawn yn ei feddwl, er nad eto wedi cyrhaedd yr addfedrwydd y daeth iddo ar ol hyn. Yr oeddem ni yno yn gwrandaw y bregeth. Dyna y Gymdeithasfa gyntaf erioed i ni yn y Bala, ac y mae yn fwy byw yn ein meddwl nag odid Gymdeithasfa ar ol hyny. Yr oeddem wedi bod yn gweithio yn galed trwy y dydd, ddydd Mawrth, Mehefin 10, yn y Penrhyn, gerllaw Bangor. Pan oeddem gartref, ar ol noswylio, ar ganol bwyta ein prydnawn-bryd, daeth Mr. Hugh Roberts, Bangor, i dŷ ein mam, i'n cymhell i fyned gydag ef a chyfeillion ereill i Sassiwn y Bala. Cytunasem i fyned, bedwar o honom, ar hyd y nos, ar ein traed yno. Yr oedd y pellder yn agos i ddeugain milltir. Yr oeddem yn y capel, yn y Bala, cyn diwedd Cyfarfod y Pregethwyr, am wyth ar y gloch, boreu Mercher. Yn niwedd y cyfarfod hwnw, gwnaed sylwadau tra theimladol ar farwolaeth y Parch. Richard Lloyd, Beaumaris, yr hwn a fuasai farw Mai 25, y flwyddyn hono. Yr oedd rhywbeth nodedig o effeithiol yn ngweddi y Parch. William Morris, Cilgeran, yn niwedd y cyfarfod hwnw. Am un
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/228
Prawfddarllenwyd y dudalen hon