Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/229

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-ar-ddeg, yr oedd Cyfarfod Ordeinio. Dyma y pryd y neillduwyd Mr. David Jones i'r holl waith. Darllenwyd y rhanau arferol o'r Ysgrythyrau, a gweddiwyd ac yr achlysur, gan Mr. Michael Roberts. Traethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. John Hughes, Pont Robert. Holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. William Morris. Er mai Mr. John Jones, Tremadoc, oedd y Cadeirydd, Mr. Elias a alwyd ganddo i ofyn cymmeradwyaeth a derbyniad y Cyfarfod o'r Brodyr a neillduid, a'r gofyniadau canlynol iddynt hwythau; ac yr oedd rhywbeth difrifol ac effeithiol annghyffredin yn y cyfeiriad a wnaed ganddo y pryd hwnw at ei Neilldüad ei hunan, yn yr un lle, dair blyneld ar hugain cyn hyny. Wedi hyny, traddodwyd y Cynghor i'r Brodyr gan Mr. Henry Rees; y tro cyntaf iddo ef draddodi y Cynghor, ac un o'r rhai rhagoraf, os nad y rhagoraf o gwbl, a draddodwyd ganddo ef ei hunan erioed. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr. David Calwaladr. Dyna y tro diweddaf y gwelwyd ef mewn Cymdeithasfa, oblegyd bu farw mewn tua mis (Gorphenaf 9) ar ol hyny. Yr oedd Mr. Michael Roberts a Mr. William Morris yn pregethu, y prydnawn cyntaf, ar y Green. Am chwech ar y gloch y boreu drannoeth, yr oedd Mr. Moses Jones a Mr. Richard Davies o Gaio, yn pregethu. Am ddeg, Mr. Ebenezer Richard a Mr. Elias. Yr oedd Mr. John Jones a Mr. Henry Rees wedi eu cyhoeddi i bregethu, am ddau, yn y prydnawn. Pregethodd Mr. John Jones ar Luc xiii. 7. Ond gan ei fod ef wedi bod yn hytrach yn faith, ac, yn enwedig, gan fod cawod led drom o wlaw wedi disgyn, ar ddiwedd ei bregeth ef, ni wnaeth Mr. Rees, wedi darllen ei destyn, ond gweddio. Trodd yr hin yn nodedig o hyfryd at yr hwyr: ac, wedi dechreu yr oedfa gan Mr. Lewis Edwards, Dr. Edwards o'r Bala yn awr, pregethodd Mr. Rees, Mr. John Phillips, a Mr. Thomas Elias. Ni phregethodd Mr. Rees ond ychydig iawn, a hyny yn gyntaf: ond cawsom y bregeth, ar "Werthfawr waed Crist," ganddo drannoeth, yn ei llawn hyd, yn y cyfarfod yn Ngherrig-y-Druidion. Dyma y Gymdeithasfa ddiweddaf hefyd i'r Parch. John Roberts, Llangwm. Bu yntau farw y Tachwedd canlynol. Yr oedd efe wedi colli ei allu i siarad, er ys cryn amser, er ei fod yn lled iach, ac ystyried ei oedran, yn mhob modd arall. Ond yn y Bala, yn un o'r cyfarfodydd, fe ollyngwyd ei dafod yn rhydd am ychydig fynydan; ac fe wnaeth rai sylwadau bywiog a thra effeithiol ar y pwnc yr ymdrinid âg ef, ar y pryd,—"Gwaith yr Ysbryd Glan yn cymhwyso yr iachawdwriaeth."