Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bennill, yr hwn a roddwyd allan ganddo i'w ganu yn y cyfarfod. Yr oedd Robert Williams, brawd i'r Parch. John Williams, yn bresennol ar y pryd, a dysgodd y pennill, yr hwn sydd fel y canlyn:—

"Mawr eiriolodd y Gwinllanydd
Am flwyddyn newydd i mi 'n wir;
Heb adael i gyfiawnder daro,
A'm tòri am ddiffrwytho 'r tir:
Gwaed yr Oen yw'r unig achos
Fy mod yn aros hyd yn awr ;
Haeddiant Iesu ar ben Calfaria
Sydd eto 'n fwy na' meiau mawr."

Bu am yspaid o amser yn Olygwr ar Gloddfa Dolyddelen (yr hon oedd ar ei dir ef), o dan gymeriad y diweddar Mr. Thomas Pugh, Dolgellau, ac ereill. Arferai bob dydd, ar yr awr giniaw, ddarllen pennod o'r Bibl a myned i weddi yn Swyddfa y Gloddfa, gyda'r holl weithwyr. Adroddir am amgylchiad tra hynod a ddygwyddodd unwaith mewn cysylltiad â'r gwasanaeth hwnw. Yr oedd dau o'r gweithwyr wedi bod yn ymrafaelio ac yn ymladd â'u gilydd. Yr oeddent yn ddynion cryfion ac ystyfnig, peryglus iawn i'w gilydd mewn cynnen, a thra anhawdd eu darostwng i dangnefedd. Yn lled fuan wedi y ffrwgwd a gymmerasai le rhyngddynt, fe ddaeth adeg yr addoliad dyddiol yn y Swyddfa, a daethant hwythau i mewn gydâ'u cydweithwyr. Yr oedd rhyw ddifrifoldeb annghyffredin yn ysbryd John Jones y diwrnod hwnw. Cydnabyddai y daioni dwyfol tuag atynt fel gweithwyr yn agored i gynnifer o beryglon, yn amddiffyn eu bywydau, ac yn eu cyfarfod â'r fath amledd o drugareddau, a hyny oll yn ngwyneb annheilyngdod ac anniolchgarwch mor fawr; a chyda chywilydd duwiol, cyffesai eu pechadurusrwydd yn eu hannghof o Dduw a'u gwrthryfel i'w erbyn er yr holl amlygiadau o'i ddaioni tuag atynt. Yn ostyngedig, ac eto yn daer, erfyniai ar i'r Duw mawr yn ei drefn trwy ei anwyl Fab faddeu iddynt oll. Ac yna llithrodd yn neillduol at achos y ddau ddyn a fuasent y dydd hwnw yn ymladd â'u gilydd; a chyda dwysder a theimlad anarferol, erfyniai yn daer ar i'r Arglwydd faddeu iddynt, ac am i'w hysbrydoedd gael eu dwyn i'w lle y naill tuag at y llall. Erbyn hyn yr oedd golygfa ddïeithr iawn yn y Swyddfa. Yr oedd teimladau pawb wedi eu gorchfygu: a'r ddau ddyn yn neillduol yn ymddryllio mewn dagrau ac ocheneidiau, a chyda eu bod oddiar eu gliniau,