Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/230

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym yn hyderu yr esgusodir ni gan y darllenydd am aros o honom cyhyd gyda'r Gymdeithasfa gyntaf hon, y cawsom ni y fraint o fod ynddi yn y Bala. Y mae y cwbl o'r gwŷr grymus ag oeddent yno y pryd hyny, ac yn blaenori gyda'r gwaith, erbyn hyn wedi eu cymmeryd ymaith, ac yn awr wedi cyfarfod â'u gilydd, "yn Nghymmanfa a Chynnulleidfa y rhai cyntafanedig;" ac nid oes arnom gywilydd addef fod hiraeth ar ein calon wrth gofio am danynt. Yn y bregeth a draddodwyd gan Mr. John Jones y tro hwn, yr oedd efe ei hunan yn ystyried ei fod yn dechreu cymmeryd y cyfeiriad newydd yn ei weinidogaeth a osodai y fath arbenigrwydd arni am y gweddill o'i oes. Fel yr awgrymasom eisoes, nid ydym ni yn tybied fod yr hyn a ddaeth, mewn blynyddoedd diweddarach, mewn modd neillduol, yn hynodrwydd ar ei bregethu ef, i'w ganfod yn amlwg iawn yn y bregeth hono. Nid oeddem ein hunain ar y pryd yn teimlo, ac nid ydym yn awr yn meddwl, fod un gwahaniaeth pynciol rhyngddi ag amryw bregethau a glywsem o'r blaen ganddo ef ei hunan, yn gystal a chan liaws o bregethwyr ereill. Yr ydoedd yn gyfansoddiad tra rhagorol; yn mhell iawn yn mlaen, yn hyny, ar y nifer amlaf o lawer o'i bregethau mewn blynyddoedd blaenorol; ac yr ydoedd, o'r dechreu i'r diwedd, yn ymliwiad uniongyrchol â meddyliau ei wrandaẅwyr, yn ngwyneb y manteision mawrion oeddent wedi gael i ddwyn ffrwyth da, yn gystal ag yn nodedig o ddifrifol ar berygl ofnadwy y rhai a barhäent yn ddiffrwyth, wedi cael y fath fanteision. Y mae yn dra thebyg, pa fodd bynnag, ei fod ef yn barnu y bregeth oddiar y safle neillduol yr oedd efe o ran ei feddwl yn awr wedi cyrhaedd iddo; ac y gallai ei fod ef yn rhoddi ystyr pur wahanol, o leiaf lawer eangach, i'r geiriau a ddefnyddid ganddo, i'r hyn a roddid iddynt, gan un oedd yn gwrandaw, ond yn ddieithr hollol i'r hyn oedd wedi myned yn mlaen yn ei feddwl ef. O hyn allan, pa fodd bynag, yr oedd ei bregethau yn arbenig yn cymmeryd y ffurf o ymliw â phechaduriaid anedifeiriol, gan ddangos iddynt, yn y modd mwyaf eglur a ffyddlawn, sail eu rhwymedigaethau, ac ateb eu hesgusodion, a'u cymhell, gyda'r dwysder a'r difrifoldeb mwyaf, i wneyd brys i sicrhau iachawdwriaeth a bywyd tragywyddol. Tua'r pryd hwn hefyd, fe ddechreuodd cyfnewidiad amlwg ar ffurf cyfansoddiad ei bregethau. Yr oeddent yn awr yn arddangos llawer iawn mwy o unoliaeth o ran mater, ac wedi colli yn gwbl yr amrywiol raniadau, ac is-raniadau, a rhaniadau drachefn o dan y rhai hyny, a geid yn fynych yn