Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/231

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei bregethau gynt; ac, yr oeddent, erbyn hyn, yn cael eu cyfyngu, gan amlaf, i ryw un meddylddrych neu wirionedd arbenig, ar yr hwn y rhoddai eglurhad helaeth a manwl a goleu, ac wedi hyny a gymhwysid ganddo, gyda grym ac effeithiolrwydd mawr, at gydwybodau a chalonau ei wrandaẅwyr. A dyna y ffurf gyffredin ar ei bregethau bellach, o hyny hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd erbyn hyn hefyd, heb un achos yn y byd, hyd y gallwn ni ddeall, oddieithr ei boblogrwydd, wedi dyfod yn wrthddrych neillduol eiddigedd rhyw rai, a gwneid cyfeiriadau amlwg, tra anngharedig, a chwbl ddisail, ato, yn fynych, mewn rhai cyhoeddiadau Misol a daenid y pryd hyny yn Nghymru. Yn y cyfeiriadau hyny, ar y cyntaf, ni byddai efe byth yn cael ei enwi; ond cyhuddid "pregethwr poblogaidd" o ddywedyd rhyw bethau; a chymysgid rhyw bethau y gwyddai efe a ddywedasid ganddo ei hunan â rhyw bethau a ddywedasid gan ryw un arall, neu a luniasid gan yr ysgrifenwyr eu hunain, ond gan briodoli y cwbl i'r "pregethwr poblogaidd;" heb un amcan, dybygid, ond i'w wneuthur ef, hyd y gellid, yn wrthddrych gwawd yn ngolwg y wlad. O'r diwedd, fe dybiwyd gan yr un rhai, neu rai o'r un ysbryd, ei fod wedi rhoddi achlysur digonol iddynt wneuthur ymosodiad mwy uniongyrchol arno, ac ni bu dim diffyg parodrwydd ynddynt i gymmeryd mantais ar hyny i'w wneyd. Yr oedd Mr. John Jones, am yr hyn nid ydym mewn un modd yn ei ganmol, yn arfer cydnabod yn fynych, yn ei bregethau, nad oedd efe ond Cymro uniaith, ac nad ydoedd yn gwybod dim o'r iaith Saesonaeg ac o'r ieithoedd ereill adnabyddus i ddysgedigion. Dywedasom nad ydym yn ei ganmol am hyn. Heb grybwyll yn awr am y diffyg chwaeth a ddangosid ganddo trwy gyfeirio felly o gwbl ato ei hunan, nid ydym yn gweled fod un angenrheidrwydd arno ddywedyd dim a allasai dueddu i beri i ryw rai feddwl yn îs am dano, hyd yn nod fel gweinidog yr efengyl, ac, felly, gwanhau dim ar ei ddylanwad i wneuthur daioni iddynt. Ac ysywaeth! y mae gormod o'r cyfryw rai i'w cael yn Nghymru: rhai a digon o ffydd ganddynt mewn Groegwyr uniaith, fel Homer ac Eschylus a Sophocles a Socrates a Plato ac Aristotle,—er nas gwyddant odid ddim mwy yn eu cylch na'u henwau; neu mewn Saeson uniaith, megis John Bunyan ac Andrew Fuller, ond heb ddim ffydd mewn Cymry uniaith. Oblegyd hyn, fe fuasai yn llawer gwell genym, fel y dywedasom yn aml wrtho ef ei hunan, pe buasai yn ddistaw ar hyn. Yr un pryd, yr oedd efe yn gwbl