Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/232

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

onest yn y gydnabyddiaeth hon; ac yn ei gwneuthur yn unig, yn ngostyngeiddrwydd diledrith ei galon, ac yn y rhyddid cyfeillgar â deimlai rhyngddo â'i wrandaẅwyr, a'i ymddiried hollol ynddynt. Yn awr, pa fodd bynnag, wele y Cymro uniaith hwn, yn ymddangos yn gwneuthur rhywbeth tra annghydweddol â'r fath gydnabyddiaeth! Yr oedd Mr. Thomas Jones, Amlwch, wedi cyfieithu Esboniad y Parch. Thomas Scott, ar y Prophwydi, i'r iaith Gymraeg, ac wedi cael gan un o'r Argraffwyr a'r Cyhoeddwyr Cymreig ymgymmeryd â'r anturiaeth o'i ddwyn allan trwy y Wasg. A chan fod Mr. John Jones ar y pryd mor boblogaidd, a meddwl mor fawr gan liaws yn y wlad am dano, fe ddymunodd y Cyfieithydd arno ef, ac amryw ereill, ysgrifenu ychydig linellau er cymmeradwyaeth i'r gwaith, gan obeithio felly sicrhau lledaeniad helaethach iddo. Fe gydsyniodd yntau â'r cais, ac a ysgrifenodd ychydig eiriau, yn y modd mwyaf anymhongar a diymffrost ag oedd ddichonadwy. Dyna yr holl achlysur a roddwyd ganddo i'r ymosodiadau bryntion a wnaed arno. Cyhuddid ef o gymmeradwyo llyfr ag oedd wedi ei ysgrifenu mewn iaith ag y byddai efe yn arfer "ymffrostio" (anwiredd dybryd) nad oedd yn gwybod gair o honi; a haerid nad oedd yma ond dangosiad o'r geudeb a berthynai iddo yn yr holl ragoriaethau ereill a dybid oeddent yn eiddo iddo, ac yr oedd y Methodistiaid, yn eu hanwybodaeth, yn mawrygu cymmaint arno o'u plegyd. Ond y gwirionedd oedd, fod Mr. John Jones wedi darllen rhanau helaeth o'r cyfieithiad, mewn ysgrifen, cyn i linell o hono ymddangos trwy y wasg; a bod Esboniad Scott ar Esaiah xxxiv., a rhai pennodau ereill, er ys blynyddoedd lawer cyn hyny, wedi eu cyfieithu a'u hanfon iddo, mewn ysgrifen, gan ryw gyfaill o Liverpool; fel nad oedd efe mewn un modd yn ysgrifenu am yr hyn yr oedd yn ddieithr iddo, wrth gydsynio â dymuniad yr hen frawd o Amlwch, ac wrth arganmol ac argymhell y gwaith i sylw a derbyniad gan y wlad. Buasai "cariad " ar unwaith yn awgrymu rhyw eglurhad o'r fath ar y "cymmeradwyaeth" a gyhoeddesid ganddo: ond, ysywaeth! nid oedd gormod o hwnw yn meddiant y rhai a ymosodent yn ei erbyn ef, hyd yn nod at rai mewn cysylltiad agosach â hwynt nag yr ydoedd efe ynddo, ac felly nid yw mor ryfedd eu bod mor brin o hono yn eu hymddygiadau tuag ato ef. Yr ydym wedi aros yn llawer hwy gyda hyn nag y bwriadem, ac, fe allai, yn hwy nag a deilyngai. Fe flinodd y peth ar y pryd, pa fodd bynnag, gymmaint ar ei feddwl ef,—mwy o