Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/233

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer, yn wir, nag a fuasem ni yn dybied a allasai wneyd, fel nad oedd modd i ni, gan ei fod yn beth hollol gyhoeddus, fyned heibio iddo yn gwbl ddisylw: ond, fel llawer o bethau ereill, fe aeth heibio; ac fe gafodd yntau fyw i wybod fod teimladau tra gwahanol yn cael eu coleddu, braidd yn gyffredinol a dieithriad, tuag ato.

Yr oedd ei feddwl, yn y misoedd canlynol, wedi myned rhagddo yn gyflym yn y cyfeiriad a gymmerasid ganddo yn ei bregeth, yn Nghymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn, 1834. Yr oedd ei bregethau, erbyn hyn, yn ymliwiad uniongyrchol â phechaduriaid, yn yr esgusodion a dynid ganddynt dros oedi ymroddi i grefydd, oddiwrth rai o wirioneddau yr efengyl, ac, yn neillduol, oddiwrth anallu dyn. Yr oedd cyfieithiad, a ddaeth y pryd hwn am y tro cyntaf i'w law ef, o lyfryn bychan, o waith Mr. Robert Hall, tad yr enwog Robert Hall, "Help to Zion's Travellers," "Cynnorthwy i Ymdeithwyr Sion," wedi cyfnerthu ei feddwl, yn y cyfeiriad hwnw, ac wedi bod o gryn wasanaeth iddo ynddo; er nad oedd efe yn ei ystyried yn cyfarfod yn hollol â'r anhawsder, nac yn wir yn ymgais at hyny, a deimlid ganddo ef yn benaf yn ffordd gwrandaẅwyr yr efengyl i ymgysegru i fywyd duwiol. Yr oedd ei bregethau, y pryd hyn, yn cael eu dilyn âg effeithiau tra gwahanol ar feddyliau amrywiol ddosbarthiadau yn mhlith ei wrandaẅwyr. Yr oedd y rhai nad oeddent eto yn proffesu crefydd, ond er ys blynyddoedd yn agos iawn ati yn cael eu hennill yn lluoedd, trwy ei weinidogaeth, i fyned yn gwbl ar ol Mab Duw; tra yr oedd llawer o hen grefyddwyr, ac yn enwedig rhyw ddosbarth yn mhlith y blaenoriaid, yn dra ammheüus o gywirdeb ei athrawiaeth, a rhai o honynt yn honi, yn ddifloesgni, nad oedd yn hollol "iach yn y ffydd." Yr oedd y naill effaith yn gystal a'r llall yn ei gymhell ef i fyned rhagddo, yn fwy egnïol, yn yr un cyfeiriad. Yr oedd y prawf oedd yn gael braidd bob Sabbath, trwy yr ychwanegiad a wneid at yr eglwysi yn y lleoedd y llafuriai ynddynt, yn rhoddi grym ychwanegol yn yr argyhoeddiad oedd yn ei feddwl, ei fod yn awr wedi taro ar y ffurf gyfaddasaf a mwyaf effeithiol i gyflwyno yr efengyl ger bron y byd; tra yr oedd y gwrthwynebiad a wneid iddo yn ei gynhyrfu yn fwy, ac yn ei arwain, weithiau, i ddywedyd, os nad rhyw bethau, eto yn sicr rhyw bethau mewn rhyw ddull, heb fod y mwyaf cyfaddas i gyfarfod rhagfarnau rhai oeddent wedi bod ar hyd eu hoes yn cael eu dysgu ac yn meddwl yn wahanol, ac i'w hennill drosodd i'w olygiadau ei hun. Ond,