Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/234

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy y cwbl, yr ydoedd yn cynnyddu yn ddirfawr mewn dylanwad, yn mhob cylch y tröai ynddo, a'i boblogrwydd, erbyn hyn, gyda'r werin y fath fel y gallai eu tynu braidd yn y cyfeiriad a fynai; a gwae, yn en meddyliau hwy, y dyn a ddywedai ddim yn ei erbyn. Nid ydym wrth hyn yn amcanu awgrymu fod neb eto yn dywedyd dim yn ei erbyn, oddieithr ambell i hen frawd, ac weithiau frawd ieuanc, ag y byddai eu Huchel—Galviniaeth yn terfynu braidd ar Antinomiaeth. Yr oedd yn mhlith corph ei frodyr, ac yn Nghymdeithasfaoedd y y Cyfundeb, yn cael edrych arno gyda pharchedigaeth hollol.

Yn Nghymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1835, pan y neillduwyd y diweddar Barchedigion David Jones, Dwyran, David Elias, Pentraeth, Richard Williams, Liverpool, a Robert Williams, Dublin (Caerlleon wedi hyny), i holl waith y weinidogaeth, yr oedd efe yn traddodi yr araeth arferol, ar y fath achlysur, ar Natur Eglwys; a Mr. Roberts, Amlwch, yn rhoddi y Cynghor. Yr oedd y Cynghor hwnw yn un o'r rhai mwyaf nerthol ac effeithiol a draddodwyd erioed. Dyma y tro cyntaf, a'r unig dro, hyd ag yr ydym yn awr yn gallu cofio, yr ymddiriedwyd i Mr. John Jones y gorchwyl oedd ganddo y pryd hwn. Buasai yn dda genym pe buasai yr Araeth, megis y traddodwyd hi ganddo ef, ar gael yn gyflawn; oblegyd yr ydoedd, mewn gwirionedd, yn gyfansoddiad tra rhagorol. Ceir rhyw grynodeb, ond hynod o anmherffaith, o honi yn y Drysorfa am Hydref, 1835, tu dal. 307, 308. Yr oedd Mr. John Jones yn pregethu, yn y Gymdeithasfa hono, ar y Green, y prydnawn cyntaf, oddiar Ioan vi. 44. Yr oedd Mr. Roberts, Amlwch, wedi pregethu o'i flaen, gyda grym a dylanwad mawr, oddiar Ioan xi. 26. Am chwech ar y gloch, boreu dranoeth, yr oedd Mr. Rees Phillips, a Mr. John Davies, Nantglyn, yn pregethu. Am ddeg, Mr. David Griffiths, Sir Benfro, a Mr. Elias. Am ddau, Mr. William Evans, Ton-yr-efail, a Mr. Ebenezer Richard. Am chwech, yn yr hwyr, Mr. Hughes, Wrexham y pryd hyny, a Mr. Daniel Evans, Capel y Drindod; a Mr. Richard Brown, yn awr o Lanidloes, yn y Saesonaeg rhyngddynt. Dyma y Gymdeithasfa yn yr hon y cafodd Mr. Elias y tro hynod, nas gellir ei annghofio byth gan y rhai oeddent yn bresennol, pan y pregethai oddiar Esaiah vi. 9, 10. Yr oedd arswyd Duw wedi meddiannu y gynnulleidfa fawr i gyd. Yr oedd yno ugeiniau a channoedd wedi tori allan i waeddi am eu bywyd; a lliaws wedi syrthio i lewygfeydd. Yr ydym yn cofio yn dda