Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/235

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod Mr. Robert Owen, Nefyn, Rhyl yn awr, yn troi atom, a'i wyneb can wyned a'r calch, ac yn gofyn i ni, "Machgen anwyl i, beth a wnawn ni?" Yr oedd Mr. Richard yn ei bregeth, yn y prydnawn, yn gwneyd y sylw, fod y pulpud iddo ef yn "bren dioddef :" "yn enwedig," meddai, "wedi y Cynghor difrifol a draddodwyd ddoe i'r brodyr anwyl a neillduid i'r holl waith; ac, yn arbenig, wedi y bregeth ofnadwy a glywsom ni yma yn y boreu. Yr oedd fy holl natur i mewn arswyd, ac yr ydwyf heb ddyfod ataf fy hunan yn iawn eto. Yr oeddwn, mewn gwirionedd, yn teimlo, wrth wrandaw, fel pe buasai y ddaear yn crynu am filltiroedd o'n hamgylch. Mi a fuaswn yn fwy parod, pe gwrandawswn ar fy nheimladau fy hunan, i alw arnoch i gyduno â mi i droi y cwrdd yn y prydnawn yma i weddïo nag i geisio pregethu. Ond yr ydym, serch hyny, wedi taro ar destyn happus iawn, Yr Arglwydd sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef!"" Ni a gawn ddyfod eto at y bregeth hon i Mr. Elias.

Yn ei bregeth y tro hwn, yn y Bala, y dug Mr. John Jones allan gyntaf, mewn cylch mor gyhoeddus, ac yn nghlyw holl wyr blaenaf y Cyfundeb, y syniadau neillduol, ag oeddent bellach er ys blynyddoedd yn ymwthio i'w feddwl, ac oeddent, erbyn hyn, wedi ei feddiannu yn gwbl. Dyma y pryd y gwnaeth y defnydd cyntaf o'r gymhariaeth, a arferwyd ganddo laweroedd o weithiau ar ol hyny, am y gorchymyn yn cael ei roddi gan y llywodraeth i'r Admiral ddyfod â'r rhan o'r llynges oedd dan ei ofal, o ryw le yn Môr y Canoldir, adref yn ddioed i Loegr. "A oes rhai o honoch yn dychymygu fod y llywodraeth, yn y fath orchymyn, yn meddwl am i'r Admiral, neu yr Admiral â'i wŷr, wneyd baich o'r llongau a'u cario ar eu cefnau adref i Loegr? Dim o'r fath beth. Chwi a wyddoch yn dda, o leiaf fe ŵyr cynnifer o honoch ag sydd yn gwybod dim am y môr ac am longau, mai amcan y llywodraeth fyddai, iddo ef wneyd y parotöadau angenrheidiol a defnyddio y moddion priodol tuag at gael y llongau adref: codi yr angorion; cyfeirio y llongau i'r dwfn a thua y cartref; codi a lledu yr hwyliau i'r gwynt, yn gulach neu yn lletach yn ol fel y byddo nerth yr awel; llywio yr holl longau yn briodol; a gadael i'r gwynt eu gyru ac i'r hen for eu cludo hwynt i Loegr, heb nesaf peth o ddim o drafferth iddo ef a'i wŷr. Caiff y bechgyn ganu yn hyfryd a mwynhau eu hunain yn ddedwydd yn y llongau, tra y bydd yr elfenau yn gwneyd y gwaith yn gwbl ddiboen a dirwgnach. Felly, 'mhobl i, y mae Arglwydd yn yr efengyl yn galw arnoch chwi-