Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/236

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thau i edifarhau ac i gredu ac i fyw yn dduwiol. Nid yw yn dysgwyl nac yn meddwl am i chwi wneuthur hyny yn eich nerth eich hunain. Na: yr hyn y mae yn ddysgwyl yw, ar i chwi eich gosod eich hunain yn y modd mwyaf manteisiol i weithrediad nerthoedd anfeidrol ei natur ef ei hunan i'ch cynnorthwyo; ymarfer yn ffyddlawn ac yn gydwybodol a'r moddion a drefnwyd ganddo ef, gydâ llawn sicrwydd o'i fendith ef, ar y fath ymarferiad, er eich dwyn i feddiant o fywyd tragywyddol. Gwthia dy lestr fechan ar fôr mawr haeddiant y Gwaredwr; cyfod hwyl fawr gweddi ddirgel; lleda hwyl myfyrdod sanctaidd; llywia yn dêg wrth gwmpas gair y gwirionedd; a dysgwyl yn ffyddiog am yr awelon nefol,—dylanwadau grymus Ysbryd y gras,—i lanw yr hwyliau; a thi a gei dy hunan, yn ddisiom, ryw ddiwrnod yn yr hafan ddymunol. Mae ganddoch chwi waith i'w wneyd, 'mhobl i, gwaith anhebgorol angenrheidiol; ac ofer hollol ydyw i chwi ddysgwyl y gall neb arall ei wneyd yn eich lle, na dysgwyl Ysbryd Duw i weithio arnoch tra y byddoch chwi yn ei esgeuluso. Ond beth fedra' i wneyd ? Fedra' i ddim credu.' Fedri di ddim darllen? Agor y Bibl; dos at yr hen Lyfr; tyn dy feddwl i gyfarfyddiad â'r dystiolaeth fawr am Iesu Grist, a gofyn i Ysbryd Duw roddi y fath oleuni i ti arni ag y byddo yn sefyll yn wirionedd yn dy feddwl dithau. Ond fedra' i ddim gweddïo.' Fedri di dreio, enaid anwyl? Fedri di roddi dy liniau ar lawr? A oes cymmal yn y glin yna ai peidio? A wneiff o blygu? 'Wel, ïe, ond y mae yn rhaid gweddïo o'r galon; ac nid ydyw hono ddim gen i.' A fynit ti ei rhoddi, bechadur? Dyro dy gorph iddo; dyro dy dafod iddo: ac os na fedri di roi dy dafod, os wyt ti heb un gair i'w ddyweyd, dos ato ac aros yn fud ger ei fron. Y mae un i fynu yna a all 'agor ei enau dros y mud.' Da, 'mhobl I, treiwch yn deg am iachawdwriaeth. Peidiwch myned i uffern ar eich union boed a fyddo. Yn wirionedd i, yr ydwyf fi wedi penderfynu, er ys blynyddoedd, nad af fi ddim yno felly beth bynnag. Os rhaid i mi fyned yno yn y diwedd yr ydwyf wedi gwneyd fy meddwl i fynu nad af fi ddim yno rhag blaen. Mi ymdrôf gryn lawer tua gardd Gethsemane; mi roundiaf yn aml o gwmpas bryn Calfaria; mi dreiaf orseddfainc y gras bob dydd o'm bywyd. Mi fyddaf yn ddifai i uffern os rhaid i mi fyned yno wedi gwneyd fy ngoreu y ffordd yna i gyrhaedd y nefoedd. Ond, Bendigedig fyddo Duw, y mae genym ni bob sicrwydd mai y ffordd i'r nefoedd ydyw honyna; ac nad aeth neb erioed i uffern y ffordd