Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/237

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna; ac nad aiff neb byth ychwaith. Ydych chwi am ei threio hi, 'mhobl i? A gaf fi ddyweyd wrtho eich bod chwi am fyned ato heno? O Arglwydd Ior, dyma filoedd o eneidiau ger dy fron yn penderfynu rhai o honynt am y tro cyntaf erioed gyda dim difrifwch—dyfod atat heno. Derbyn hwynt, Arglwydd Iesu, a dyro dy haeddiant mawr dy hunan yn eu plaid rhyngddynt a'r felldith y maent wedi ei haeddu, a'th Ysbryd Sanctaidd i'w nerthu i ymddiried ynot ac ynot yn unig am eu bywyd tragywyddol." Nid ydym yn gallu rhoddi ei sylwadau ond yn dra anmherffaith, gan ein bod yn ysgrifenu yn gwbl o'n côf, a bod yn agos i bymtheng mlynedd ar hugain, bellach, er pan y traddodwyd y bregeth. Yr oedd ganddo lawer o sylwadau i'r un ystyr. Yr oedd y pregethwr yn un o'i hwyliau goreu, a'r gynnulleidfa fawr yn ei law, i'w thrin fel y mynai. Yr oedd yno "Amenau " filoedd gyda'i gyfwng—erfyniau, ar i'r Arglwydd "ennill y bobl i dreio yn deg, beth bynnag, am eu bywyd." Yr oedd golwg ryfedd ar Mr. Ebenezer Richard yn gwrandaw. Yr oedd yn wylo fel plentyn ; y dagrau mawr gloewon yn rhedeg dros ei ruddiau; a'i "Amen" cynhes yn ychwanegu at dynerwch pawb o'i amgylch. Ond yr oedd amryw o'r hen gyfeillion yn edrych yn dra synedig, ac fel pe na buasent yn gwybod yn iawn pa beth i'w feddwl o'i athrawiaeth; a rhai o honynt yn methu peidio dangos arwyddion amlwg o annghymmeradwyaeth. Yr ydym yn cofio yn dda fod Mr. Elias felly, yn arbenig, ar rai rhanau o'r bregeth. Yr oedd un hen frawd arall yn dywedyd nad oedd y bregeth ond un amcan i esbonio ymaith wir ystyr y testyn.

Yn nghyfarfod y pregethwyr a'r blaenoriaid, am wyth ar y gloch, boreu dranoeth, yr oeddid yn ymddiddan am Waith achubol yr Ysbryd Glân ar galonau pechaduriaid. Gwnaed llawer o sylwadau rhagorol, ar ei waith yn argyhoeddi; yn aileni; yn gogoneddu Crist; ac ar yr agweddau a ddylent fod arnom ninau wrth weddio am dano. Ryw bryd, yn ystod yr ymddiddan hwnw, fe wnaeth Mr. John Jones y sylw, fod yr Ysbryd yn gogoneddu Crist trwy gymmeryd o'i eiddo ef a'i fynegi i bechaduriaid; a bod hyny yn golygu, ac yn cynnwys, fod rhyw oleuni ar y pethau am Grist yn cael ei ollwng gan Ysbryd Duw i feddwl y pechadur, yn nghymdeithas ei feddwl ef â'r pethau, ac mai effaith y goleuni hwnw oedd ei ddwyn i fawrygu Crist, i ymddiried ynddo, ac i'w gymmeryd yn Geidwad iddo ei hunan. "Y mae yn rhaid i ni olygu," meddai, "yn nghanol yr holl ddirgelwch sydd ar y