Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/239

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Peidiwn byth a dychymygu y gwna dim goleu, pa mor gryf bynnag, yn y deall, gyfnewid ansawdd y galon; na breuddwydio y gwna dim perswadio moesol o'r eiddom ni, pe baem ni yn meddu doniau angylion a dynion, effeithio byth i ladd gelyniaeth pechadur at Dduw a'i ennill i sancteiddrwydd. Am a wn i nad oes goleu angel yn neall y diafol, ond calon cythraul sydd ganddo wedi y cwbl." Yr oedd yn siarad yn ardderchog ond chwareu teg i Mr. John Jones, nid oedd dim yn ei sylwadau ef, fel ag yr oedd efe yn eu hamcanu, yn awgrymu unrhyw ogwydd at yr hyn y cyfeirid mor gynhyrfus ato. Mewn gwirionedd, nid oedd. wedi dywedyd dim ond a ddywedasid mewn rhan gan Mr. Elias ei hunan, yn yr un ymddyddan, ychydig fynydau cyn hyny. Yr oedd efe wedi dywedyd yn dra dysgrifiadol, ac yn hynod o effeithiol, mai dyna ydyw argyhoeddi—"Codi'r cauad oddiar enau hen garchar, wedi ei gloddio yn y ddaear, ac yn llawn nadroedd a gwiberod gwenwynig; fel yr oedd goleuni yn dyfod i mewn i'r truan oedd ynddo ar ei sefyllfa, nes peri rhyw arswydau ofnadwy yn ei feddwl, a chreu awydd angerddol ar ei galon am gael ei waredu rywfodd o hono." Mae yn wir ei fod ef wedi sylwi yn helaeth ar y gwahaniaeth sydd rhwng y goleuni a ollyngir i'r meddwl gan Ysbryd Duw a phob goleuni arall. Yr ydym yn cofio yn dda y darluniad a roddid ganddo o ddau ddyn, yn y llys gwladol, pan y cyhoeddid dedfryd marwolaeth ar un o honynt. "Y mae y naill fel y llall," meddai, "yn clywed y geiriau, yn clywed yr un geiriau; y mae y naill fel y llall yn deall eu hystyr allanol yr un modd; ond y mae teimlad y dyn y cyhoeddir y ddedfryd arno, os bydd yn ei bwyll, yn rhoddi rhyw ystyr i'r geiriau, yn ei feddwl ef, ag y mae yn anmhosibl i'r llall ymddyrchafu iddo. Neu, ynte, tybiwch am ddyn yn clywed am ryw ddibyn peryglus, uwchben dyfnder dychrynllyd; a'r un dyn yn ei gael ei hunan mewn lle felly, a'i droed yn llithro, ac yntau ar fin syrthio, dim ond rhagluniaeth braidd wyrthiol yn ei gadw rhag disgyn i lawr y clogwyn i'r goriwaered ofnadwy islaw. Mae y profiad o'r perygl yn rhoddi i'r dyn a'i cafodd ryw ddirnadaeth newydd am ei faint. Nid ydyw y wybodaeth hanesiol uchaf am gyflwr colledig a chalon ddrwg, ond rhywbeth fel goleuni y lleuad, yn gollwng ychydig lewyrch i'r garret a'r ystafelloedd uchaf a mwyaf agored; ond y mae goleuni yr Ysbryd fel codiad Haul, yn gollwng ei belydrau dysglaer i dreiddio trwy yr holl dŷ, ac yn cyrhaedd i'r cellar ddyfnaf ac isaf." Yr oedd ganddo amryw sylwadau a chymhariaethau ereill i'r un ystyr. Nid oedd Mr. John