Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neidiasant i freichiau eu gilydd, gan wylo ac ymgofleidio, a deisyf maddeuant y naill gan y llall. Yr oedd yr holl olygfa yn gyfryw ag nad oedd bosibl i'r rhai ocddent dystion o honi byth ei hannghofio. Bu unwaith mewn amgylchiad lled brofedigaethus, yr hwn a barodd gryn niwed iddo o ran ei amgylchiadau, er nad cymmaint ag i ddyrysu ei fywioliaeth. Yr oedd periglor plwyf Dolyddelen yn cadw gŵr dano i ddarllen y gwasanaeth yn y Llan, ac i gyflawni y dyledswyddau ereill a ddisgynent arno fel îs-beriglor, yr hwn oedd yn hynod o ddrwgfucheddol, yn feddwyn cyhoeddus, ac yn adnabyddus fel un yn ymroddi i bob aflendid. Cymerodd y plwyfolion yr achos dan eu sylw, a phenderfynasant gyda'u gilydd attal y gŵr i fyned i'r Llan y Sul canlynol. Yr oedd John Jones yn Swyddog yn y plwyf ar y pryd, ac am hyny fe osodwyd arno ef sefyll yn nrws y Llan, i'w rwystro i fyned i mewn i ddarllen y gwasanaeth. Yn ol eu dymuniad, fe safodd yntau yn nrws yr eglwys, a'i gefn ar un post a'i droed ar y post arall, a'i ddwylaw dan ei geseiliau. Yr oedd lliaws mawr o'r plwyfolion yn sefyll gerllaw, yn gweled ac yn clywed y cwbl a gymerodd le. Pan welodd y curad hyn, wedi ychydig siarad, troes yn ol, ac aeth adref at y Periglor. Aeth y ddau yn nghyd, pa fodd bynag, a gosodasant yr achos yn llaw cyfreithiwr. Cymerodd y gŵr urddasol ei lŵ fod John Jones wedi ei daro. Er fod yno liaws o dystion na thynodd John Jones mo'i ddwylaw odditan ei geseiliau, ac nad oedd y curad ac yntau mewn un modd wedi cyffwrdd â'u gilydd, eto llŵ y curad a orfu. Nid hawdd, y dyddiau hyny, oedd i Ymneillduwr gael tegwch, yn enwedig ar achos o'r fath, tra nad oedd ond y gwŷr urddedig a'u cyfeillion yn eistedd ar farn, a'r rhai hyny yn gyffredin yn rhy barod i gredu unrhyw beth yn erbyn pwy bynnag a feiddiai ammheu yr hyn a olygid ganddynt hwy yn hawl ddwyfol iddynt eu hunain. Aeth y plwyfolion yn rhy ddigalon i gyfodi yr achos i lys uwch, lle y buasent yn debycach o gael tegwch, gan yr ofnid yr urdd offeiriadol yn y dyddiau hyny megis llid y brenhin. Yr oedd yn dda, ar ryw ystyr, i John Jones iddynt ddigaloni felly; oblegyd y mae lle i ofni, pe troisai yr achos yn eu herbyn, y buasai yn cael ei daflu yn y canlyniad i brofedigaeth fwy. Yr oedd y plwyfolion wedi gwneyd gweithred, gan ei harwyddo â'u henwau, gyda seliau wrthi, y talent holl gostau yr amgylchiad. Ond, yn y diwedd, bu raid iddo ef sefyll yn yr holl gostau ei hunan, heb gael un ddimai tu ag atynt gan neb. Cadwodd y weithred