Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/240

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, yn sicr, wedi gwneyd y gwahaniaeth hwn mor amlwg ag efe, ac eto yr oedd yntau, yn bendant, wedi defnyddio yr ymadrodd "goleuni newydd ;" ac, heblaw hyny, "goleuni " oedd y syniad mawr gan y naill yn gystal a'r llall. Y mae yn lled sicr genym, pe na buasai am y bregeth, y prydnawn o'r blaen, na buasai yr hyn a ddywedwyd gan Mr. John Jones, dranoeth, yn tynu nemawr sylw; ond yr oedd Mr. Elias yn eu deall, yn ngoleuni y bregeth hono, ac yn ofni drwyddo fod rhyw gyfeiriad yn cael ei roddi i'r pwnc annghydweddol â "chysondeb y ffydd," ac felly, ar unwaith, am roddi attaliad arno. Yr ydym ni ein hunain yn tueddu i dybied, yn yr ychydig wahaniaeth a allai fod rhyngddynt, yn neillduol ac edrych ar y mater o ochr neu o du y nefoedd, mai Mr. Elias oedd agosaf i'r gwirionedd ; a bod yn hytrach ormod o duedd, yn y sylwadau a wnelsid gan Mr. John Jones, i adael megis o'r neilldu y gwahaniaeth hanfodol sydd rhwng y galon a'r deall, a'r dylanwad nerthol sydd gan ansawdd y naill ar ddirnadaeth y llall; tra, yr un pryd, ac edrych ar y cwestiwn o du y dyn, neu i amcanion ymarferol, fod gwirionedd pwysig a phwysig iawn, yn ei olygiad yntau. Ond, pa beth bynnag am hyny, yr oedd yn eglur fod Mr. Elias, os nad wedi colli yn ei dymher, wedi llefaru, yn ngwyneb yr amgylchiadau, yn llawer rhy gyffrous a gerwin, ac nid oes un amheuaeth, pe cyfodasai Mr. John Jones i gynnyg rhyw fath o atebiad, na chawsai deimlad cryf, os nad cyffredinol, yn y cyfarfod o'i blaid. Ond cyn i neb, od oedd rhyw un yn meddwl am hyny, gael amser i wneyd un math o atebiad, fe gododd Mr. Ebenezer Richard i fynu, ac yn y dull tyner eto awdurdodol oedd yn eiddo iddo ei hunan, fe ddywedodd,—"Os ydym ni am gael Ysbryd Duw atom, ac i aros gyda ni, ac i weithio trwom ac yn ein plith, nid oes dim yn fwy angenrheidiol nag i ni ofalu am ein hysbrydoedd ein hunain. Ni a allwn ddeall pa fath Ysbryd ydyw ef oddiwrth ei ffrwythau. Ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hir—ymaros, cymmwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest.' Y mae pob terfysg a chynnwrf yn groes iawn i'w natur ef, ac yn ei anfoddloni ef yn fawr. Un hawdd iawn ei dychryn yw y golommen fach. Nid oes dim yn blino y Golommen nefol yn fwy na chynhenau, gwynfydau, ymrysonau,' a'r pethau a fyddont yn tueddu at hyny. Chwi gyrwch hi i ffordd yn mhell oddiwrthych os daw dim fel yna i mewn i'ch plith. Y mae zel yn werthfawr iawn; ond fe aiff yn gwbl ddiwerth yn ngolwg y nefoedd, os collwn ni yr