Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/241

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn ysbryd. Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi,' ebai'n Harglwydd mawr wrth ei ddysgyblion zelog, a fynent ganiatâd ganddo i beri i dân ddyfod i lawr o'r nef i ddifa rhyw rai oeddent yn ymddwyn yn anngharedig tu ag ato. Fe wnaeth Elias felly.' 'Do; Do; ond nid yn eich ysbryd chwi.' Twymno dros eu Meistr yr o'ent hwy: ac yr oedd yn iawn iddynt dwymno; ac yn sicr nid oedd eu teimlad cynhes ato yn annghymmeradwy ganddo ; ond yr oedd yn gwgu ar yr ysbryd ' oedd yn rhoddi y cyfeiriad i'w heiddigedd. Rhaid i ninau ofalu, hyd yn nod wrth amddiffyn gwirionedd yr efengyl, na byddom dan lywodraeth unrhyw ysbryd' a wnelo ein holl zel yn annerbyniol gan y Meistr mawr." Teimlodd pawb, a theimlodd Mr. Elias yn ddiddadl, fin y sylwadau; ac yr oedd yn ddigon call ac yn ddigon duwiol i gymmeryd y cerydd, y fath ag oedd, yn dawel; ac aed yn mlaen, o hyny hyd ddiwedd y cyfarfod, gyda sylwadau rhagorol, gan Mr. Elias yn benaf, ar yr agweddau a ddylent fod arnom, pan yn nesau at yr Arglwydd mewn gweddi, am dywalltiadau o'r Ysbryd Glân.

O'r diwrnod hwnw allan, pa fodd bynnag, fe ddaeth Mr. John Jones i gael ei ystyried yn un o'r rhai a dybid oeddent yn tueddu at ryw gyfnewidiad, yn syniadau athrawiaethol y Cyfundeb y perthynai iddo ; er, yn sicr, nad oedd y gwahaniaeth, o leiaf eto, ond yn unig yn y wedd fwy ymarferol a roddid ganddo ef ar y gwirionedd. Ar rai achlysuron, byddai rhai na amheuid dim arnynt, Mr. Elias ei hunan yn anad neb yn rhoddi gwedd llawn mor ymarferol ag yntau. Er esiampl: yn mhen blwyddyn ar ol y Gymdeithasfa sydd wedi bod yn awr dan ein sylw, sef, yn y Gymdeithasfa ganlynol yn y Bala, 1836, yr oedd Mr. Elias yn pregethu, yn y Capel, y noswaith yn mlaen, oddiar Diar. i. 24, " Yn gymmaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried." Yn y bregeth hòno, yr oedd yn cymmeryd yr un tir yn hollol, ac yn dywedyd mewn ystyr agos yn gwbl yr un pethau ag oeddent wedi cyffroi cymmaint arno, pan y dywedasid hwynt, y flwyddyn flaenorol, gan Mr. John Jones. Gosodai "ystyried" allan fel dyledswydd amlwg a phendant, ag y mae cymhwysder naturiol mewn dyn fel creadur i ymroddi iddi. Yr ydym yn awr fel yn clywed ei lais, yn ymliw â'r pechadur :—"Fedraf i ddim edifarhau. A elli di ddim galw dy ystyriaeth at ddaioni Duw tuag atat, y trugareddau aneirif wyt ti wedi dderbyn, a'r gwaredigaethau mawrion wyt ti wedi gael? Fedraf fi ddim credu.' Fedri di ddim