Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/242

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galw dy ystyriaeth at y Bibl, at y dystiolaeth am Grist, at dy angen mawr am dano, ac at yr addasrwydd perffaith sydd ynddo i wneyd i fynu am byth dy holl ddiffygion?" Eto. "Beth sydd yn damnio gwrandaẅwyr yr efengyl? Annghrediniaeth. Beth ydyw achos annghrediniaeth? Gelyniaeth calon at Dduw yn tori allan mewn anystyriaeth. Paham y maent yn gwrthod gwahoddiadau doethineb? Heb ystyried.' Dyna · Iesu mawr, ar ol dyfod i lawr o'r nefoedd i'r ddaear, a marw i ennill trefn heddwch, yn yr efengyl yn estyn ei law, ac am wneyd cytundeb heddwch â'r gwrthryfelwyr. A ydyw y cymmod yn cael ei wneyd? Nag ydyw. Paham? Gwrandewch ar y gwr oedd â'i law allan yn dywedyd paham: 'i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried. Diystyrasoch fy holl gynghor i.' Paham y mae y rhai a wahoddwyd yn gwrthod dyfod i briodas mab y brenhin? 'A hwy yn ddiystyr ganddynt.' Oedd yno ddim digon o ddarpariaeth ar eu cyfer? Yr oedd pob peth yn barod.' 'A hwy yn ddiystyr, ganddynt.' Oedd yr alwad ddim yn ddidwyll a thaer? Yr oedd gweision ar ol gweision yn cael eu hanfon atynt i'w cymhell. Yr oedd y brenhin yn gwrthod eu nacâd. 'A hwy yn ddiystyr ganddynt.' Oedd rhyw wendid arnynt oedd yn eu hesgusodi? Ni fynent hwy ddyfod.' 'A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i'w faes, ac arall i'w fasnach.' Yr oedd eu hanewyllysgarwch yn dyfod i'r golwg yn eu hanystyriaeth; a'u hanystyriaeth yn cryfhau eu hanewyllysgarwch." Yr ydym yn cofio yn dda fod y diweddar Barch. Richard Humphreys yn dywedyd wrthym, ar ol yr oedfa hono,"Pregethwr di—ail ydyw Mr. Elias pan y bydd ê yn y track iawn. pe buaswn i yn pregethu y bregeth yna fe fuasai y bobl yn dyweyd fy mod i mewn rhyw System Newydd dros fy mhen." Nid oedd y fath sylwadau ond cwbl gyffredin yn mhregethau Mr. Elias, fel yr oedd yn ymddangos i ni, ar y pryd, fel yn wir, y mae yn ymddangos eto, braidd yn anesboniadwy, pa fodd yr oedd yr hyn a ddywedasid gan Mr. John Jones, y flwyddyn flaenorol yn y Bala, wedi cyffroi cymaint arno. Ond nid oedd dim yn tycio i dynn Mr. John Jones, ar ddehau nac ar aswy, o'r llwybr o dorasid ganddo yn awr iddo ei hunan: ac yr oedd y newydddeb oedd yn ei ysbryd, ac yn ei weinidogaeth; ac, yn neillduol, yr ymwneyd uniongyrchol oedd ynddi, mwy felly yn awr nag erioed o'r blaen, â chydwybodau ei wrandaẅwyr, yn peri fod gafael nerthol ac effeithiol, braidd bob tro, ac yn mhob man, gan y gwirionedd trwyddo ar eu meddyliau. Mae yn wir y byddai yn fynych, yn rhy fynych, fe