Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/243

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allai, yn trin ei bwnc mewn gwedd ddadleuol, ac yn achosi felly gryn lawer o ddadleu mewn rhai cymmydogaethau, yr hyn, ar y pryd, a ymddangosai i ryw rai yn peri mwy o niwed nag o ddaioni i achos crefydd ; ac a dueddai, y mae yn ddiammheuol, i gryfhau y gwrthwynebiad iddo yntau, yn meddyliau y rhai oeddent, ar hyd eu hoes, wedi arfer meddwl yn wahanol, ac yn gwbl hyderus eu bod yn meddwl yn iawn. Ond y peth mawr cyntaf, yn ei olwg ef, oedd cael y bobl i feddwl; gan ei fod yn hollol sicr, ond eu cael i hyny, mai y diwedd fyddai eu hennill yn llwyr i'w olygiadau ef. Ac ar y cwbl, yn neillduol ac ystyried y defnyddiau oedd ganddo i ymwneyd â hwy, yn enwedig mewn ambell fan, yr oedd yn gallu llywodraethu ei hunan yn well nag y gallesid dysgwyl braidd i neb wneyd; ac yr oedd y gwrthwynebiad iddo yn lleihau ac yn lleihau, o Sabbath i Sabbath, ac o bregeth i bregeth, nes yn raddol, ac o'r diwedd, y darfu yn hollol.

Tua dechreu y flwyddyn 1836, fe welodd y rhai oeddent wedi bod mewn ymdrech i sobri y wlad, trwy yr hen"Gymdeithas Cymmedroldeb," nad ydoedd, er mor ragorol o ran ei hamcan, ac er mor gyfaddas o ran ei moddion i rai parthau o'r deyrnas, eto yn ateb, mewn un modd, i anghenion ac amgylchiadau parthau ereill, megis Cymru, yn enwedig; ac, felly, fe ddechreuwyd ar yr ymosodiad mewn gwedd newydd, gan gymhwyso egwyddor yr hen Gymdeithas gyda golwg ar wirodydd poethion, at y diodydd meddwol yn gyffredinol. Cyn diwedd y flwyddyn, yr oedd Sir Gaernarfon drwyddi, a Siroedd ereill Gogledd Cymru yn gyffelyb, yn y cynhwrf mwyaf gyda "Dirwest," ar yr egwyddor o lwyr ymattaliad oddiwrth y diodydd meddwol yn ddieithriad. Yn mhen ychydig amser, yr oedd miloedd lawer wedi ymrestru yn Aelodau o'r Gymdeithas; cannoedd lawer o feddwon wedi eu sobri yn hollol; ugeiniau, ïe, cannoedd o dafarndai wedi eu cau; a'r gwaith da yn myned rhagddo yn fwy gobeithiol nag y dysgwyliai ei bleidwyr gwresocaf. Parhäodd yr ymdrech yn egniol, yn y blynyddoedd canlynol; ac ymddangosai, ar y pryd, fel pe buasai Cymru drwyddi ar gael ei glanhau yn fuan oddiwrth feddwdod a'i holl achlysuron. Yr oedd prif weinidogion Gogledd Cymru, yn mhlith yr amrywiol enwadau, wedi cyfodi i fynu ac yn dyfod allan fel un gwr i bleidio yr ysgogiad. Yn Nghymmanfa Ddirwestol gyntaf Gwynedd, a gynnaliwyd yn Nghaernarfon, Awst 2, 3, 1837, yr oedd Mr. Williams o'r Wern yn Gadeirydd y Cyfeisteddfodydd, a Mr. Elias yn Gadeirydd y Cyfarfodydd cyhoeddus: