Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/244

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr oedd Mr. Christmas Evans, yr hwn oedd yn trigiannu yn y dref, yn areithio yn danbaid yn un o'r Cyfarfodydd. Yr oedd Mr. Elias yn pregethu ar yr achos y prydnawn cyntaf, a Mr. Williams yn pregethu am ddau ar y gloch, yr ail ddydd. Yr oedd cyfarfod areithio yn y boreu, am ddeg, ar Forfa y Saint; a chynnulleidfa liosog yn bresennol. Yr oedd Araeth Mr. Elias, y pryd hyny, yn un o'r darnau mwyaf hyawdl a nerthol a glywsom ganddo ef ei hunan erioed. Daeth Mr. John Jones allan, yn un o'r rhai cyntaf, ae yn ei holl nerth, i bleidio yr Achos Dirwestol. Yr oedd ei Areithiau a'i Bregethan ar hyny yn rhagori, yn ein barn ni, fel cyfansoddiadau, ar odid ddim a glywsom braidd un amser ganddo ; ac y mae yn resyn mawr genym os ydynt, fel ydym yr yn ofni cu bod, wedi myned yn gwbl ar ddifancoll. Yr oedd mwy o le i'r humour, nis gwyddom yn iawn pa air Cymraeg i'w arfer am dano,—rhyw fath o arabedd nwyfus, hylon, hoenus, gogleisiol,—oedd mor gryf ynddo ef, ddyfod i'r golwg yn ei Areithiau Dirwestol nag yn ei bregethau yn gyffredin; yn wir, dyna y pryd y sylwasom ni gyntaf fod ganddo y fath doraeth o hono. Mwy nag unwaith y gwelsom ef, wedi dwyn y bobl, drwyddo, i ymyl ysgafnder,—oblegyd ni chlywsom ni mo hono erioed yn eu gyru i chwerthin yn hollol, nac yn amcanu dim at hyny, ond o ymyl hyny, ar unwaith yn dwyn rhyw ddarluniad byw, nerthol, ger eu bron, a fyddai yn ddigon effeithiol i wneyd teimladau pawb yn yiflon, ac i gynnyrchu ysbryd dial ynddynt oll ar y drwg yr ymosodai i'w erbyn.

Wrth weled y llwyddiant mawr oedd ar yr Achos Dirwestol yn y wlad yn gyffredinol, a'r lleihad cyfatebol ar feddwdod a drygau ereill ; a'r cynnydd cyson, y gwyddai am dano, oedd mewn lliaws mawr o gymmydogaethau ar nifer yr aelodau eglwysig; a'r nifer amlaf o'r rhai a ychwanegid felly yn troi i mewn yn wyneb argyhoeddiad dwfn a dwys o'u rhwymedigaeth i grefydd, ac, mewn gwaed oer, yn ymddangos yn benderfynol i ymroddi iddi; wrth weled hyn oll, yr oedd ei feddwl, y blynyddoedd hyn, wedi dyfod yn llawer mwy gobeithiol am barhad bywyd a nerth yr achos mawr yn ein plith, nag y buasai mewn blynyddoedd blaenorol. Yr oedd rhai hen frodyr yn teimlo yn wahanol; ac, yn fynych, yn roddi datganiad cyhoeddus i'w hofnau,— fod yr Arglwydd eisoes wedi cilio yn mhell oddiwrth ei gysegr, a bod arwyddion rhy amlwg ei fod yn ymbellhau. Yr oedd efe yn rhy barod i dybied fod y tadau a'r brodyr ffyddlawn a phryderus hyny, yn lled aw-