Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/245

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grymu, trwy gwynion felly, eu hannghymmeradwyaeth o'r dull neillduol a gymmerid yn awr ganddo ef, ac amryw ereill, i ymwneyd â meddyliau y bobl, a'u hammheuaeth o wirionedd y llwyddiant ymddangosiadol a ganlynai y dull hwnw : ac felly, yn fynych, fe gymmerai fantais ar gyfarfodydd llewyrchus,—rhyw amlygiadau arbenig, yn ei fryd ef, o'r presennoldeb a'r dylanwadau dwyfol,—i galonogi y rhai a allent fod mewn ofnau gwirioneddol rhag i'r fath beth gymmeryd lle, ac i roi hergwd dda i'r rhai a dybid ganddo ef oeddent yn arfer, cwyno yn unig oddiar ammheuaeth fod rhyw ŵyrni wedi dyfod i mewn i'r athrawiaeth. Y mae yn rhaid addef y byddai, weithiau, yn myned yn rhy eithafol yn y cyfeiriad hwnw, fel ag i arddangos gormod o duedd taro, ac mewn dull braidd annghydweddol a'r difrifwch a'r arswyd sanctaidd priodol i'r fath amlygiadau dwyfol: ond, o'r tu arall, yr oedd y fath appeliadau yn fynych yn ychwanegu yn ddirfawr at ddwysder y teimladau a gynnyrchasid, ac yn atteg nerthol i feddyliau rhai rhy barod i ddigaloni, a hyny heb ddolurio dim, nac aflonyddu yn y gradd lleiaf, ar un meddwl a allasai fod yn gwahaniaethu oddiwrtho ef. Cafodd gyfarfod hynod felly mewn Cymdeithasfa yn y Wyddgrug, Tachwedd 2, 1837. Yr oedd Mr. Elias wedi pregethu yn y boreu, am ddeg, oddiar Ezeciel viii. 6, gyda nerth ac arddeliad annghyffredin. oedd ei bregeth ef, gan mwyaf, ar y perygl i'r wlad gael ei gadael gyda rhyw ffieidd-dra mawr," a barai i'r Arglwydd gael ei "yru yn mhell oddiwrth ei gysegr." Ni a roddwn yr adroddiad, yn ngeiriau y ddiweddar Miss Jones o'r Wyddgrug, fel ag y cawn hwynt yn y Cofiant iddi, gan ei brawd, y diweddar Mr. Thomas Jones (Glan Alun) :

"Yr oedd rhyw arddeliad annghyffredin ar y bregeth hon. Yr oedd y capel yn dyn iawn o bobl, ac yr oedd yn olwg effeithiol gweled y dyrfa fawr heb un llygad sych; llais y pregethwr yn cael ei foddi yn ocheneidiau a gweddïau y bobl; a'r gweinidogion ereill wedi eu llwyr orchfygu gan rym gweinidogaeth eu brawd. Ni chlywais y bregeth hon, oblegyd aethum gyda Mrs. E. i'r capel arall, ond cymmaint ag a adroddwyd i mi o honi, mi a'i rhoddaf i chwi. Sylwai i Ezeciel weled yn ei weledigaeth (adn. 3—5) 'ddelw yr eiddigedd' a 'gogoniant Duw Israel,' yn yr un man, ond nad allent aros yn yr un man yn hir. Os na symmudid y ddelw,' 'gogoniant yr Arglwydd' a ymadawai. Sylwai fod lle i ofni fod rhyw ddelwau yn cael eu cynnwys yn eglwysi Duw yn y dyddiau hyn, ac yn nghalonau ei bobl, pa rai oeddent