Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/246

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn peri fod yr Arglwydd yn 'pellau oddiwrth ei gysegr.' Dywedai mai arwydd trwm fod yr Arglwydd yn ymadael oedd, 'pan nad oedd ef yn gweithio yn y goedwig, nac yn trin ei ardd'. Yn y dyddiau hyn ychydig o annuwiolion oedd yn cael eu dwyn i waeddi 'Beth i'w wneyd i fod yn gadwedig.' Appeliai at gydwybodau ei gyd-weinidogion,'Onid oedd lle i feddwl fod yr Arglwydd yn ymbellâu oddiwrth ei bobl yn yr eglwysi ragor yn y ddyddiau gynt? Onid oedd eu profiadau yn llai siriol, a'u cariad at yr Iachawdwr yn oerach? Onid oedd yn fwy anhawdd adnabod y proffeswr oddiwrth y dibroffes, a hyny yn mhlith pob enwad?' Yna appeliai at y gynnulleidfa i gyd-weddio âg ef am i Arglwydd y cyssegr ddychwelyd cyn llwyr adael rhiniog y tŷ; a gwaeddai allan gyda rhyw ddifrifoldeb rhyfeddol, a'r pwyslais tanbeidiol, priodol iddo ef ei hun, drachefn a thrachefn, 'O Arglwydd, tyred yn nês;' nes yr oedd rhyw effeithiau nerthol yn cynhyrfu y dorf drwyddi gyda'r geiriau."

Yr ydym wedi cyfeirio fel hyn at y bregeth hon, ac wedi gwneyd y dyfyniad hwn, fel y gallai y darllenydd gael gwell mantais, mewn cysylltiad â'r hyn a ddywedasom uchod, i fyned i mewn i holl ystyr yr hyn a ganlyn. Ac nid ydym yn meddwl y gallwn wneyd dim yn well na rhoddi Adroddiad yn gyflawn, fel ag yr ydym yn ei gael gan Miss Jones :"Y cyfarfod nesaf oedd am ddau o'r gloch.—Yn ein capel ni, pregethodd Mr. Dl. Jones, Llandegai, oddiwrth Esay lv. ben. 7 adn., a Mr. J. Jones, Talsarn, Salm lxxxiv. 1 ac 2 adn. Sylwai, fod hawddgarwch neillduol yn mhebyll yr Arglwydd; ac am natur yr hawddgarwch hwn. Nid yw pebyll yr Arglwydd wedi eu haddurno â llawer o rwysg y byd hwn. Er y gallai efe roddi awenau y llywodraeth yn nwylaw ei saint, nid felly y dewisodd ef. Yr ydym yn dysgwyl yr amser pan y bydd holl gyfoeth y byd wedi dyfod i mewn i'w gynteddau; ond nid yn hyn y bydd eu prydferthwch; rhaid i ni edrych yn uwch. Yn hyn y mae eu hawddgarwch yn gynnwysedig, sef, yn y sancteiddrwydd sydd yn perthyn iddynt; sancteiddrwydd athrawiaeth, rheolau, a buchedd; a hefyd, bod yr Arglwydd yn arddel perthynas â hwynt. Sylwodd, yn ngolwg pwy y mae'r pebyll yn hawddgar. Nid yn ngolwg yr annuwiol ond yn ngolwg y saint. Yma y maent hwy yn cael amlygiad o drugaredd, o ddoethineb, o barhâd cariad Duw, ac hefyd goleuni clir ar ragluniaeth Duw. Yn mhlith sylwadau ereill, dywedai, Nid oes dim yn achosi mwy o boen i un sydd yn caru yn fawr, na