Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/247

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwl fod gwrthddrych ei gariad i ddarfod. Mae meddwl am golli eu priod yn achos o ofid, ar brydiau, i wŷr a gwragedd serchog ar hyd eu hoes. Dyma sydd yn destyn gorfoledd i'r Cristion yn y cyssegr,—cael golwg yno ar barhâd gwrthddrych ei gariad, a pharhad cariad ei wrthddrych.' 'Bum i yn ceisio darllen rhagluniaeth Duw wrth oleuni rheswm, heb ddyfod i oleuni y cyssegr, ond nid oedd yno ond tywyllwch a chwmwl. Mae yn siwr fod yno beth arall i'w ganfod, sef, cyfiawnder a barn; ond yr oedd y rhai hyny yn rhywle yn y niwl, yn rhy bell i mi allu eu canfod. Bu Jacob yr un modd yn ceisio darllen heb oleuni y cyssegr, a dyma ei iaith, Yn fy erbyn i y mae hyn oll:— Anwiredd bob gair, Jacob; o'th ochr di y mae.' Felly y bu Dafydd hefyd, pan yr oedd yn cenfigenu wrth yr annuwiol, hyd nes yr aeth i'r cyssegr.' Y mae y pebyll yn hawddgar yn ngolwg yr angylion, y maent hwy yn cael testyn rhyfeddod ynddynt. Nid yw yr angylion yn rhyfeddu at bethau mor wael ag y gwnawn ni ddynion. Mae dynion yn dyfod o bob cwr o'r wlad i weled Pont Menai; ond ni byddai yn werth gan angel droi cwr ei lygad i edrych ar ryw jobs felly. Ond yma, yn ein Trugareddfa ni, y mae'r peth rhyfeddaf a welodd angel erioed, sef, golchi pechadur aflan, &c. Ie, ar yr hyn bethau y mae yr angylion yn chwennychu edrych.' O! pan y mae angel yn dyfod o'r wlad lle y mae addoli mewn cariad gwresog ac mewn perffeithrwydd sanctaidd, i'n plith ni, onid ydyw ein hagwedd ddioglyd, oeraidd, yn destyn syndod iddo? Yr oedd yr apostol yn gorchymyn i'r gwragedd gadw eu gorchudd am eu penau o herwydd yr angylion. Bobl, ymddygwch bob amser yn nghynteddoedd yr Arglwydd, fel na bydd arnoch ofn na chywilydd i'r angylion eich gweled. Na chysgwch byth mewn addoliad rhag ofn rhoi sarhâd arnynt hwy. Ie, a chofiwch fod un mwy nag angylion yn eich gweled; y mae Duw yn bresennol.' Ar yr adnod olaf o'i destyn, Fy nghalon a'm cnawd a waeddant am y Duw byw,' gwnai y sylwadau canlynol yn mysg eraill:—' Y mae cleddyf yr Ysbryd genym mor finiog ag erioed. Mae hwn wedi archolli llaweroedd cyn dy eni di; ond y mae eto yn ddigon o hyd ac yn ddigon miniog, ïe, gallwn ddywedyd am dano fel y dywedodd Dafydd am gleddyf Goliath, Nid oes o fath hwnw.' Ond dyna sydd arnom ei eisiau, —y fraich i'w gyfeirio rhwng y cysylltiadau,—braich y Duw byw. Mae yr ordd genym, yn ddigon trom i ddryllio y galon fwyaf adamantaidd, ond y mae eisiau y fraich i'w chodi i fynu a'i