Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/248

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gollwng i lawr.' 'Duw byw' ;—os yw efe wedi cilio yn mhell, eto y mae efe yn ' fyw.'—Bobl, gwaeddwch am y Duw byw.' Nid yw efe wedi myned yn rhy bell i glywed eich llef. O! na: y mae efe yn clywed; ac ni all yr Arglwydd oddef i'w bobl waeddi yn hir heb eu hateb. Ac yn mhellach, yr wyf yn dweyd i chwi hyn: Ni ymâd yr Arglwydd byth, tra parhäoch i waeddi arno. Daliwch eich gafael ynddo yn dŷn, bobl. Gwn fod yma rai yn y gynnulleidfa hon, sydd a iaith eu calonau fel hyn,—'Os ydwyt ti yn ymadael, rhaid i ti fy nhynu i gyda thi,—ni ollyngaf fy ngafael ynot.' Gadewch i ni weled yn awr pa faint o afael sydd yma yn y Duw byw.' Pwy a rydd ei Amen gyda'r weddi hon?—O! Arglwydd, tyred yn nês!' Gellwch ddychymygu yn haws nag y gallaf ddesgrifio pa fath effaith a gafodd yr apêl hon ar y gynnulleidfa. Yna dywedai, 'O! y mae llawer yn gafael,—dowch eilwaith; —O! Dduw, disgyn, agosha at, ac achub y gynnulleidfa hon! Dyna hi, y mae'r gafael yn cryfhâu.' Yna dyblai ryw erfyniadau cyffelyb, nes oedd yr holl dorf yn dan gwyllt. Ni welais y fath olwg erioed. Yr oedd y fath swn yn y capel nes boddi llais y pregethwr. Nid oedd yno wylo na gorfoleddu; ond yr oedd rhyw deimlad yn ymgribo tros bob un, a rhyw Amen gyffredinol yn adsain trwy'r lle ar derfyn pob erfyniad. Tra yr oedd hyn yn cymmeryd lle, nis gwn pa beth i'w alw; gall y rhai na theimlasant y fath beth ddweyd mai cynhyrfiad areithyddol a gormodol (extravagant) yn unig oedd, ac felly yn ddiau yr oedd ar lawer; ond eto ni chredaf fi nad oedd rhywbeth mwy na hyn—rhywbeth sydd yn briodol yn unig (peculiar) i gynhyrfind crefyddol ond tra yr oedd hyn yn cymmeryd lle, dywedai Mr. J., A welwch chwi, bobl? y mae 'r Arglwydd yn agos. Dyma'r peth ydyw, neu sydd yn arwyddo presennoldeb yr Arglwydd; rhywbeth annysgrifiadwy fel hyn. Yr oeddem ni yn gwybod ei fod ef yn agos. Yr oeddem yn ei weled yn y cyfarfodydd private, &c."

Rhaid i ni gofio nad oes yma ond crynodeb, ac o angenrheidrwydd, tra anmherffaith, o'r bregeth hynod hon. Nid oedd cyfarfodydd fel hyn, gyda chynhyrfiadau nerthol cyffelyb, mewn un modd yn annghyffredin iddo ef. Yr eithriad yn wir, am ran fawr o'i oes, oedd cyfarfodydd fel arall, er, yn ddiddadl, y byddai rhai o'i gyfarfodydd, o'r hyn dybygid yr oedd hwn yn enghraifft, yn llawer hynotach nag ereill, a'r effeithiau oddiwrth ei weinidogaeth y fath nes peri braidd i bob un o'i wrandaẅwyr golli pob meddiant arno ei hun.