Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/249

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn Ebrill, 1838, fe aeth i Lundain, at y Gymmanfa flynyddol yno ddydd Gwener y Groglith, a Sul a Llun y Pasg, y 13, y 15, a'r 16, o'r mis hwnw y flwyddyn hono, ac a arhosodd yno am yr amser arferol i wasanaethu ar ol hyny. Tra yn Llundain y tro hwn, wrth weled fod yr hen frawd, Mr. William Williams, yn cymmeryd llywodraethiad yr achos braidd yn hollol o ddwylaw Mr. James Hughes, ac yn treulio y rhan fwyaf o amser y cyfarfodydd eglwysig i wneuthur areithiau hirion, a'r rhai hyny yn gyffredin heb ddim neillduol ynddynt, tra na chai ei gyd—weinidog, yr hwn oedd yn llawer mwy galluog a chymmeradwy nag ef, ddywedyd, nac amser i ddywedyd, nesaf peth i ddim, fe ddug Mr. John Jones yr achos, ond mewn gwedd gyffredinol, dan sylw y brodyr yno yn eu Cyfarfod Misol, ar foreu Sabbath, Mai 13, 1838. Ni a ddodwn i mewn yma yr adroddiad am hyny, fel ag y cofnodwyd ef gan Mr. James Hughes ei hunan, yr hwn, ar y pryd, oedd yn arfer gweithredu fel Ysgrifenydd :—" Annogwyd y blaenoriaid oll, ac yn enwedig y rhai hynaf o honynt, megys John Jones, &c., i fod yn fwy parod i ddechreu gwaith y Society, trwy araeth fer fel arweinial i mewn, a galw rhywun yn ddioed i ddywedyd ei brofiad; fel na byddo amser yn colli tra byddom ni yn cymhell ein gilydd, ac yn disgwyl wrth ein gilydd; ac hefyd fel na byddo pregethwyr yn agored i brofedigaeth, trwy ddistawrwydd hwyrfrydig y blaenoriaid, i ddifa yr amser trwy areithiau hirion yn y Society. Annogwyd ni hefyd i fod oll yn fwy parod i gyd—ddywedyd â'n gilydd yn y Society, er cefnogi a chynnorthwyo y naill y llall, a chyd—ddwyn y gwaith yn mlaen megys o un galon. Nid dymunol yw gadael y gwaith oll ar ddau neu dri, Pa un bynnag ai pregethwyr ai blaenoriaid a fyddont, a phawb ereill yn ddistaw; trwy gefnogi ein gilydd, a phob un i ddywedyd ychydig bob yn ail a'n gilydd, yr â y gwaith yn mlaen oreu." Hysbyswyd yr annogaeth hon yn gyhoeddus yn y Society yn Jewin Crescent, y nos Sabbath hwnw, gan Mr. John Jones, pan oedd, fel yr arferent y pryd hyny, y ddau weinidog a'r holl flaenoriaid yn bresennol. Wrth wneuthur hyny, fe ddywedodd ei fod ef, er pan ydoedd yno y pryd hyny, ac felly hefyd pan ydoedd yno o'r blaen, yn teimlo yn ddwys wrth fod Mr. James Hughes mor ddistaw yn y cyfarfodydd eglwysig; a'i fod yn hyderu yn fawr, y byddai i'r datganiad o'u teimladau, a wnelsid gan y brodyr yn eu Cyfarfod Misol, ddylanwadu arno i beri iddo gymmeryd llawer iawn mwy o ran ynddynt rhagllaw; ac, os oedd yr eglwys yn