Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn llonydd yn ei feddiant, a gadawodd hi i'w deulu ar ei ol, heb gymaint a gofyn am yr arian. Yr oedd hyny yn arwyddo mawrfrydigrwydd tra annghyffredin ynddo ef, ond yn dangos rhywbeth tra gwahanol yn ei gyd-blwyfolion. Costiodd iddo rai ugeiniau o bunnau. Yr oedd hyny yn gryn brofedigaeth iddo gyda'i deulu llïosog, yn enwedig y pryd hwnw, pan oedd yn dymhor caled a gwasgedig. Ond gofalodd yr Arglwydd am dano, gan ei fendithio â llawer mwy na digon i gyfarfod holl gostau annghyfiawn y gyfraith.

Er ei fod yn ŵr iach a chryf, ac yn un, oddiwrth ei holl ddull o fyw, y gallesid dysgwyl oes hir iddo, eto fe gafodd ryw fodd oerfel trwm, yr hwn a ddygodd anhwyldeb blin i ben ei lîn, yr hyn, wedi gwaeledd maith, a derfynodd yn angau iddo. Yn ei gystudd olaf, yr oedd ymweliadau ei gyfeillion crefyddol âg ef yn effeithio yn ddirfawr ar ei feddwl. Byddai, ar brydiau, yn teimlo cymaint wrth eu gweled fel nas gallai ddywedyd nemawr ddim wrthynt. Un tro, wedi i nifer o'r rhai anwylaf ganddo, a'r rhai y byddai yn fwyaf agored gyda hwynt, ddyfod ato, nis gallodd gan drallod ei feddwl, ddywedyd cymaint ag un gair wrthynt. Wedi iddynt fyned ymaith, daeth ychydig ato ei hun ac i allu siarad. Gan dòri i wylo, dywedodd wrth ei wraig,"Fy mrodyr anwyl! fy mrodyr anwyl! wedi dyfod i edrych am danaf, a minau yn methu dywedyd yr un gair wrthynt! Ond mi a gâf dafod rhydd i ymddiddan â fy mrodyr eto,–câf, câf, ar ol hyn. Y mae dammeg y deng morwyn wedi bod yn galed iawn wrthyf am rai oriau. Y mae wedi fy chwilio i drwyddof. Bum yn ei chlorian ac yn cael fy mhwyso ganddi, ac ar lewygu gan ofn. Yn wir y mae wedi bod yn ddydd barn arnaf fi. Bu agos i ddammeg y deng morwyn a'm lladd. Yr oeddwn yn methu a dywedyd yr un gair. Ac felly yr oeddwn yn methu a siarad â'm brodyr anwyl a fuant yn edrych am danaf. Ond, bendigedig fyddo yr Arglwydd! yr wyf wedi cael glan. Mi a ddaethum trwy ddammeg y deng morwyn,–do, mi ddaethum trwyddi hi am byth. Yr wyf wedi dianc byth gan fy Marnwr. Mi a wn na ddemnir mo honof byth. Bendigedig fyddo Duw! Mi gaf dragywyddoldeb ar ei hyd i ddiolch iddo. Oh, na fuas ai fy mrodyr anwyl yma yn awr, gael i mi ddywedyd wrthynt."

Ychydig iawn o amser cyn marw, a'i wraig yn sefyll wrth erchwyn ei wely ac yn ymddangos yn bruddaidd a digalon, ac yntau yn gwybod ei fod ar ei gadael, gyda naw o blant lled fychain, gan nad oedd yr