Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/250

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyffredin o'r un meddwl a'r brodyr yn y Cyfarfod Misol, y carai efe ddynt roddi arwydd o hyny, ar y pryd, yn y dull cyffredin, trwy godiad deheulaw. Yn y fan, dyna agos bawb oeddent yn y lle yn rhoddi yr arwydd gyda'r parodrwydd mwyaf. Ond ni effeithiodd hyn er peri i'r hen frawd, Mr. William Williams, newid dim ar ei ddull, nac i Mr. James Hughes siarad, na chael amser i siarad, dim mwy. Y mae yn ddrwg genym ddywedyd na ddarfu i Mr. James Hughes ymddwyn yn gwbl mor garedig at Mr. John Jones. Yr oedd efe, fel y mae yn hysbys, yn lled gaeth yn ei olygiadau ar yr athrawiaeth, ac yn ofni yn fawr bob ymadawiad â'r hen ffurf ac â'r hen eiriau, yr oedd wedi cynnefino â hwynt, i'w gosod hi allan. Yr oedd pregethau Mr. John Jones, y pryd hwn, o nodwedd hollol wahanol: yn gwbl rydd oddiwrth holl lyffetheiriau unrhyw gyfundraeth, ond yn ymwneyd, o'r dechreu i'r diwedd, â chydwybodau ei wrandaẅwyr. Ac yr oedd ei weinidogaeth yn nerthol iawn, ac yn cael ei dilyn yn fynych âg effeithiau cyfatebol ar deimladau y bobl. Ond nid oedd hyny mewn un modd yn ddigon o iawn am y gŵyrni a dybid oedd yn yr athrawiaeth. Ni ynganwyd gair wrtho ef yn bersonol am hyny: ond wedi ei ymadawiad oddiyno, fe anfonwyd llythyrau yma a thraw i Gymru, yn enwedig at Mr. Elias, i ddymuno ar i'r Gymdeithasfa, pan anfonid pregethwyr yno drachefn, ofalu na byddai neb yn cael ei anfon a dynai i lawr, yn ei weinidogaeth, yr athrawiaeth yr oeddent hwy bob amser wedi eu dysgu ynddi, a'r hon nad oeddent yn dymuno ei newid am yr un arall. Gwnaed defnydd o'r llythyrau hyny mewn mwy nag un Gymdeithasfa, mewn cyfeiriad amlwg ato ef, a brawd parchus ac anwyl sydd eto yn fyw, er ceisio gwrthweithio dylanwad y ddysgeidiaeth a dybid oedd mor newydd, a'r hon oedd yn awr yn ymdaenu mor gyflym trwy yr holl wledydd. Dyma un o'r pethau a barodd y blinder mwyaf i Mr. John Jones, yn ystod yr holl ddadleuon a achlysurwyd gan ei weinidogaeth. Nid oedd yn gofalu cymmaint mewn dyrnod, ond iddo ei gael yn dêg, ac yn ei wyneb: ond yr oedd tarawiad fel hyn, o'r tu ol, ac mewn gwedd mor gyffredinol ac anmhenderfynol, a hyny oddiwrth rai a gymmerent arnynt, hyd y gallai ef weled, fod yn gwbl gyfeillgar a chymmeradwyol, yn rhywbeth ag yr oedd ei holl natur foesol yn cyfodi yn ei erbyn. Bu am rai blynyddoedd, ar ol hyn, yn teimlo yn dra gwrthwynebus i roddi cyhoeddiad arall i fyned i Lundain.

Mae genym yma yr hyfrydwch pruddaidd o ddodi i mewn un o'r