Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/251

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig lythyrau o'i eiddo a ddaethant i'n llaw. Nid ydyw yn taflu dim goleuni ar ei hanes ef ei hunan, ond fe wasanaetha fel enghraifft o'r modd y ceisiai gysuro cyfaill hoff ganddo mewn trallod dwfn. Ysgrifenwyd y llythyr at ein hanwyl dad yn nghyfraith, y Parch. William Roberts, Amlwch, pan ydoedd mewn iselder mawr, wedi colli dwy o'i ferched, trwy angeu,—Katherine, ei bummed ferch,—geneth ieuanc brydweddol, ac yn golygu bod yn gysur mawr i'w thad yn ei chrefydd, yr hon a fu farw Gorphenaf 9, 1838, pan nad oedd ond ychydig fisoedd dros dair-ar-ddeg oed: a Jane, ei ferch hynaf,—un a ystyrid yn nodedig o brydweddol, a meddylgar, a duwiol, yr hon a fu farw cyn pen mis ar ol ei chwaer, Awst 7, 1838, cyn bod yn llawn ugain mlwydd oed. Y mae yn amlwg, wrth y llythyr, nad oedd Mr. John Jones, pan yn ei ysgrifenu, wedi clywed eto ond yn unig am farwolaeth Katherine, eithr yn gwybod am waeledd Jane, a phryder mawr ei thad o berthynas iddi. Ni a ddodwn y llythyr i mewn yn hollol fel y cafodd ei ysgrifenu ganddo ef, oddieithr yn unig ychwanegu y gwahân-nodau.

"FY ANWYL FRAWD,

Yr ydwyf yn gofyn maddeuaut genych o fy hwyrfrydigrwydd yn cyflawni fy addewid i chwi. Nid ydyw yn werth amser i mi ysgrifenu nac i chwithau ddarllen yr amrywiol esgusion a allaswn nodi. Yr ydwyf yn cyfrif fy hun yn hollawl annghymwys i gyfeirio dim, yn fy llinellau afluniaidd, at eich amgylchiadau difrifol a'ch teimladau dolurus. Y profiad a wneir ynoch' sydd yn sicr yn fwy 'tanllyd' nag a allaf fi ddirnad, ac yn mhell tu hwnt i'm cydymdeimlad.

Gallesid nodi mil o ystyriaethau sydd yn barod i wânu' eich meddwl â llawer o ofidiau,' y rhai a gyfodant oddiar eich myfyrfod ar yr hyn a aeth heibio yn ddiweddar, ynnghyd â'r hyn a ofnwch, fe allai, sydd eto yn ôl. Colli merch hoff a hawddgar; ei cholli cyn iddi eich poeni yn ei hymddygiad; cyn iddi ofidio eich cydwybod na'ch gwaradwyddo trwy fywyd annuwiol a llygredig; colli un y cawsoch y fath ddifyrwch yn ei chymdeithas; ei magwraeth oedd yn bleser; ei chymdeithas ddiniwed oedd yn felus; ei hymarweddiad moesol a diargyhoedd oedd yn berarogl; ei thymher oedd yn ennillgar a serchiadol; ei harddwch oedd fyth yn cynnorthwyo i ennill iddi fwy o anwyldeb. Yr oedd wedi ei chysylltu â'ch serchiadau trwy fil o rwymau.