Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/252

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydych yn ei throi yn eich meddwl, ac yn edrych arni yn mhob ffordd a golygiad, ond ni ellwch weled dim ond hawddgarwch. Nid oes genych le yn eich meddwl, yn fynych, i ddim ond eich anwyl blentyn. Yr ydych yn edrych ar ei rhagoriaethau, ac yn eu hadolygu, drachefn a thrachefn. Wedi myned trwy un adolygiad yn fanwl, eich meddwl a gymmer ei ymdaith yr un ffordd, drachefn a thrachefn; ac nid ydyw y son na'r myfyrdod am dani byth yn myned yn ddiflas; a mynych yr haera eich teimlad na allasech byth gyfarfod â'r fath ofid oddiwrthi hi a dioddef ei cholli, ac nad oedd bosibl i'ch anwyl blentyn roddi i chwi y fath boen a cholled, ag a wnaeth trwy eich gadael mor foreu a myned i fyd arall i fyw. Yr oedd wedi lledu ei gwraidd yn eich serchiadau mor ddwfn, fel nad oedd bosibl iddi hi gael ei diwreiddio heb i chwithau gael eich rhwygo a'ch dryllio. Mae ei cholli o'r byd wedi rhoddi gwedd arall ar ei wyneb i gyd. Ei cholli o'r addoldy, sydd yn gwneyd y frawdoliaeth yn hannerog a bylchog. Ei cholli o'r tŷ, sydd yn peri iddo ymddangos yn wag. Yr oedd eich anwyl blentyn, erbyn edrych yn iawn, yn cynnorthwyo i gysylltu eich serchiadau â dynolryw yn gyffredinol: oherwydd, ar ol ei cholli hi, y mae eich meddwl wedi hanner ymadael â holl ddynolryw, ac â phob peth gweledig. Ac, oddieithr i chwi ymarfogi â'r un meddwl' ag oedd yn Nghrist, i ymostwng i ddioddef, y teimlad grymus o fawredd eich colled a'ch dwg ymaith i'r eithafion peehadurus, o dybied na allasai Duw eich colledu na'ch drygu mewn un ffordd yn fwy, na chymmeryd oddiarnoch eich anwyl blentyn.

Ond pa beth oedd hyn, mewn gwirionedd, fy Anwyl Frawd? Ai saeth yr Hollalluog,' i'ch dryllio chwi, a'ch anwyl briod, a'ch plant? Ai 'cwppanaid o lid' y Duw anfeidrol a estynwyd at eich gwefusau oll, i'w yfed y naill at y llall? Nage. Y Ceidwad Bendigedig a gymmerodd eich merch yn ei freichiau ac a'i dygold adref ato ei hun. Anwyl frawd, Ai hyn sydd yn eich poeni? A ellwch chwi gyfrif hyn yn arwydd o 'soriant yr Hollalluog?' Ffordd ryfedd yn wir iddo i amlygu ei soriant at ei was a'i law-forwyn,—cymmeryd eu plant, y naill ar ol y llall, i'w gosod yn berlau tragywyddol yn nghoron y Prynwr! Cymmerold eich merch ymaith o flaen eich llygaid i fywyd ac anllygredigaeth, i roddi i chwi hollol sicrwydd o'i hawl i gymdeithas dragywyddol Daw a'r Oen a'r saint a'r angylion, mewn sefyllfa o berffeithrwydd digymmysg a diddiwedd. Fe allai i'r Duw unig ddoeth feddwl y byddai