Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/253

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael sicrwydd am ei thragywyddol ddedwyddwch yn fwy o fudd a chysur i chwi nag a fuasai ei chymdeithas dros weddill eich dyddiau. Meddyliodd yn sicr y byddai eich colledu o'i chymdeithas yn 'y byd hwn,' trwy fod yn foddion i sicrhau i chwi ei chymdeithas yn y byd a ddaw,' yn arwydd o'i ffafr i chwi; a dichon ei fod yn dysgwyl diolch genych am hyny. Chwi a gawsoch eich colledu, mae yn wir, o wrthddrych ag yr oedd genych afael mawr ynddo,—o blentyn hoff—ïe, ond o bechadur halogedig, yn byw yn nghanol temtasiynau, peryglon, profedigaethau dibaid, na wyddis pa fodd y buasai yn troi allan pe cawsai oes hir. Attaliodd Duw oddiwrth eich merch flynyddoedd ag yr oedd genych ddymuniad cryf am iddi eu cael. Ond ein syched cryf am hir einioes i'n plant, sydd, fe allai, yn llai doeth a synwyrol nag a feddyliasom; ac, fe allai, mewn rhai amgylchiadau, yn tarddu oddiar ein dieithrwch i'r byd tragywyddol. Ond pa fath ydyw y bywyd hwn, ag yr ydym mor awyddus am iddynt gael y fath flynyddoedd meithion o hono? Onid bywyd o demtasiynau diorphwys? Onid bywyd o drallod a gofid? Onid bywyd o ofnau a dychrynfeydd? Onid bywyd o ryfeloedd gwaedlyd a dinystriol? Onid bywyd o alar a gruddfan,—ïe, i'r rhai sydd yn ei fyw yn fwyaf sanctaidd ac uniawn? Paham y blysiwn gymmaint o'r fath fywyd i ni ac i'n plant? Paham y galarwn gymmaint oherwydd ei golli?

Cydmarwch eich amgylchiad ag amgylchiad y rhieni sydd yn edrych ar eu plant yn byw yn annuwiol a halogedig; neu a'r rhai hyny sydd yn galaru ar ol mab neu ferch, wedi rhoddi pob sicrwydd yn eu bywyd iddynt ddibenu eu gyrfa dan lid y Duw tragywyddol. Onid yw eich baich chwi yn ysgafn at y rhai hyn? neu, y rhai sydd yn ymadael eu hunain â'r byd hwn, ac yn gadael ar eu hol blentyn hoff, mewn byd llawn o bechod, a phob arwyddion ei fod yn elyn Duw?

Pa fodd y cymmerodd Duw eich merch ymaith? A dorodd efe hi ymaith a dyrnod disymwth yn ei soriant? Edrychwch ar anneddau trigolion y ddaear: cewch weled llawer o bebyll yn llawn gorthrymder. Rhai wedi derbyn dyrnod angeuol a gwobr annghyfiawnder yn eu dwylaw; rhai yn cael eu gwânu ar y weithred ffiaidd o aflendid; rhai wedi eu gwysio i'r farn a'r rhegfeydd yn eu geneuau; a rhai yn eu meddwdod, &c. Onid oes genych achos i fod yn ddiolchgar am i'ch merch chwi gael y fraint o farw yn yr Arglwydd, a llon'd ei chydwybod o heddwch? Oni chawsoch chwi ei gweled yn rhodio yn llaw