Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/254

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei Phrynwr cyn cychwyn i'w thaith? Onid efe a'i dygodd hi gydâg ef adref? Onid oedd ganddo fwy o hawl ynddi na chwi? A ellwch chwi ddadleu rhywbeth dros eich gafael ynddi? Oni all efe ddadleu iddo ei phrynu â'i werthfawr waed? Iddo gael llawnach hawl ynddi trwy iddi ei chyflwyno ei hunan yn wirfoddol iddo? Addawodd hi yn ei phriodas ág ef ymadael â phawb er mwyn ei ddilyn ef i bob man. Onid yn y geiriau hyny y cyfarchodd efe hi ar ddydd ei dyweddïad? Gwrando, ferch, a gwel, a gostwng dy glust; ac annghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad; a'r Brenhin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Ior di; ymostwng dithau iddo ef.' Gan mai dyna ydyw ffurf eu priodas, na feiwch hi am eich gadael chwi, nac yntau am ei chymmeryd hithau i'w balas brenhinol.

Yr ydwyf yn rhoddi o'ch blaen ddau Sabbath i chwi gymmeryd eich dewis o honynt, sef Hydref 21, neu 28. Neu, os ydyw Medi 9, yn wâg genych, y mae i'w gael, sef y Sabbath o flaen Cymmanfa Bangor. Gallwn roddi odfa ddydd Llun am 11eg yn rhywle, a Beaumaris am 6. Rhoddwn odfa Nos Wener yn nghapel Pen-y-Garnedd, a'r Sadwrn am 11, ac am 6, lle y gwelwch yn oreu. Ydwyf, eich annheilwng frawd,

Awst 15, 1838.
JOHN JONES, Talysarn, Llanllyfni.

Dymunir cael llinell o atebiad.

Buasai yn dda genym pe buasai llythyr ein hen dad, i'r hwn yr oedd y llythyr blaenorol yn atebiad, ar gael. Mae yn dra thebyg ei fod, fel yr ydoedd yn rhy fynych yn dueddol, yn enwedig yn ngwyneb profedigaeth mor fawr, yn ddigalon a chwynfanus iawn, a bod hyny yn cyfrif am y dôn neillduol ar yr atebiad iddo, gan Mr. John Jones. Mae yn anhawdd meddwl braidd am fwy o wahaniaeth arddull nag a ganfyddir yn y llythyr uchod, i'r hyn oedd briodol i'r un y cyfeiriwyd ef ato. Rhoddwyd yn ein llaw, ychydig amser yn ol, ond yn rhy ddiweddar iddo allu ymddangos yn ei Gofiant ef, y llythyr canlynol o'i eiddo at y Parch. Richard Lumley, ar yr achlysur o farwolaeth ei anwyl briod; ac, fe allai, yr esgusodir ni am ei ddodi i mewn yma, yn benaf fel esiampl o'r gwahaniaeth y cyfeiriasom ato. Gellir gweled, ond cymharu y ddau lythyr, llawer o nodweddion gwahaniaethol meddyliau eu hawdwyr ynddynt.