Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/255

Prawfddarllenwyd y dudalen hon
AMLWCH, Rhag. 4, 1857.

FY ANWYL GYFAILL,


Pe na ddygwyddasai ychydig gydnabyddiaeth rhyngom, ni buasai eich profedigaethau chwi yn effeithio ond ychydig ar fy nheimladau estronaidd i, mwy na phe clywswn am ryw un wedi syrthio yn India, neu y cyffelyb. Ond, yn wir, pan y gwelais hysbysiad o'ch trial llym iawn, trwy ymadawiad eich Priod serchog, nis gallaswn lai na theimlo trwmlwyth eich meddyliau chwi a'ch plant hoff yn pwyso peth ar fy ngwar inau, er yn mhell oddiwrthych. Fy anwyl gyfaill, a fedrwch chwi yn awr alw i ystyriaeth pa fodd y buasech chwi, a pha fodd y darfu i chwi gynghori eraill, i fwrw eu baich a'u holl ofal arno EF? Dywedasoch, Y mae efe yn gofalu drosoch chwi.' Gan hyny, cofiwch na ddarfu marwolaeth eich anwyl Mrs. Lumley wanychu dim ar ei fraich, nac oeri dim ar ei galon ef: canys ni ddarfu i eraill, mewn ufudd-dod i'ch cynghorion chwi, wrth sugno eu cysuron o'i gyflawnder ef, brinhau dim ar yr hyn sydd heddyw yn angenrheidiol i'ch diddanu chwithau. Am hyny byddwch yn llawn mor hael ar addewidion Duw i chwi eich hunan, ag y buoch i eraill wrth eu cynghori i fyw arnynt. Heb ychwanegu, y mae yn dda genyf eich gadael uwch ben digon tragywyddol. Cymmerwch Graig yr Oesoedd yn wrthddrych eich ymddiried. Pwyswch ar hono, ac nid rhaid i chwi suddo byth. Pe buaswn yn gallu cyfansoddi llythyr maith, ni fynaswn eich lloni â dim arall, ond, trwy ddywedyd geiriau'r Salmydd,— Pwy sydd genyf. . . . ond tydi? ni ewyllysiais neb gyda thydi.' Gyda chyd-annerchiad fy nheulu a fy hunan atoch chwi a'r eiddoch oll, Ydwyf, anwyl frawd, eich distadl gyfaill, mewn cydymdeimlad,

W. ROBERTS.

Yn niwedd Medi, 1810, cychwynodd Mr. John Jones i daith i'r Deheudir, i Gymdeithasfa Abergwaen, Sir Benfro, yr hon a gynnhelid Hydref 12, 13, a'r 14. Pregethodd yn y Gymdeithas fa hono y noswaith gyntaf yn y capel, ac am dri y prydnawn canlynol ar yr heol, ac am ddeg ar y gloch drannoeth yn yr un lle. Yr oedd y Parch. Robert Hughes, Uwchlaw'r ffynnon, gydag ef, fel cyfaill, ar y daith hon, ac y mae wedi anfon i ni yr adgofion canlynol o'i eiddo am dani:— "Yr oedd yn hynod ddigalon ac isel ei feddwl wrth ddechreu y daith yn Sir Feirionydd, am yr ofnai fod Anne, ei ferch hynaf, yn y darfod-