Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/256

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edigaeth. Efe a'i cymmerodd hi gydag ef i'r Faeldre, er mwyn ychydig gyfnewidiad awyr, tra y byddai efe yn y Deheudir. Yn y teimlad hwn, nid oedd air braidd i'w gael ganddo am ddim, ond cyfodai ambell ochenaid drom, fel o waelod ei galon, a dywedai yn awr a phryd arall, 'ni wn i ddim beth a ddaw o'r hogen.' Ond yn rhywle, wrth fyned at Lwyngwril, dechreuai chwerthin, nes oedd yr hen geffyl yn ysgwyd tano, a minau yn synu beth a allai fod wedi peri cyfnewidiad mor ddisymwth. Toc dyma fo yn gofyn, Robert, a wyddoch chwi i ba beth y mae y llygod ffreinig da?' Na wn i, yn wir,' meddwn inau, 'onid ydynt i boeni dynolryw.' 'Wel, nid oes fawr er pan y gwybum inau,' meddai yntau. Yr oedd rhyw weydd tlawd, yn Sir Fòn, yn gweddio mewn cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf; ac, wrth weddio, dywedai, "Diolch i ti, O Arglwydd, am y cnwd toreithiog a roddaist ti ar y maesydd eleni, ac am y tywydd braf a gafwyd i'w fedi, a'i gasglu. A diolch i ti hefyd am y llygod mawr: fe fuasai yr hen ffarmurs cybyddlyd yma yn cadw yr yd eto heb ei ddyrnu, nes y buasai pobl dlodion yn methu ei gael: ond y mae genyt ti ddigon o lygod i'w hanfon i'w teisi i'w ddifetha os na ddyrna' nhw fo." Ar hyn, ymadawodd ei brudd-der a bu yn siriol ar hyd y daith.

Mi a dybiwn fod y wlad yn teimlo braidd yn siomedig ynddo y daith hon. Yr oedd ei bregethau oll, oddieithr ychydig, o nodwedd ymarferol ac annogaethol, gan gymhell y bobl at eu dyledswyddau, ac awgrymid yn bur aml wrthyf fi, nad oedd yn llawn ddigon Calvinaidd. Y ddwy oedfa mwyaf nerthol a gafodd ar y daith hon, oedd, un yn Trefin, ar y geiriau, 'Ond myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.' Yr oedd wedi clywed, cyn dyfod yno, fod llawer o blant yr hen Fethodistiaid yn y gymmydogaeth wedi gadael y Capel, a chrefydd eu tadau, ac wedi myned i Eglwys Loegr. Yr oedd y meddwl am hyny yn annioddefol ganddo, ac wedi cynhyrfu ei ysbryd. Yr oedd efe yn ystyried y fath ymddygiad nid yn unig yn arwydd o ddiffyg crefydd, ond hefyd yn brawf o falchder a ffolineb anfaddeuadwy. Gellid canfod hyny trwy ei bregeth. Nid annghofiaf byth, ac y mae yn rhyfedd genyf onid oes ugeiniau o'r rhai oeddent yn ei wrando y noswaith hono nas gallant annghofio mwy na minau, y dysgrifiad bywiog, tlws, ac effeithiol, a roddes o'r gwr a fendithia yr Arglwydd' ar ddyledswydd, ar ol boreu-fwyd. Yr ydoedd rywbeth yn debyg i hyn:— Un o'r golygfeydd prydferthaf mewn natur, ydyw gweled y tad wrth ben y bwrdd, yn cymmeryd y dorth, ac