Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/257

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn tafellu y bara i'w blant bychain; a hwythau â'u llygaid yn fyw, yn edrych ato, ac yn dysgwyl wrtho, bob un am ei ran. Ni wnaeth llaw celfyddyd erioed ddim a ddeil i'w gystadlu am hanner mynyd â golygfa fel yna. Nid oes ganddyn' nhw yn Llundain yna ddim byd tebyg i hynyna. Ond y mae yr olygfa sydd yn dilyn, yn nhŷ y cyfiawn, yn fil prydferthach na honyna. Wedi i anghenion pawb gael eu diwallu, a phob un o'r plant iachus yn dywedyd nad oes arno eisiau dim yn ychwaneg, dacw y tâd, "y gwr a fendithia yr Arglwydd," a'i "wraig fel gwinwydden ffrwythlawn ar hyd ystlysan y tŷ, a'i blant fel planhigion olewydd o amgylch y ford,"—dacw y tad yn cymmeryd yr hen Feibl mawr teuluaidd yn ei ddwylaw, ac yn dechreu tafellu iddynt fara'r bywyd; a'r rhai bach, nad yw eu coesau dros chwe' modfedd o hŷd, yn plygu eu gliniau, ac yn rhoddi eu Hamen gyda gweddi eu tâd am drugaredd i'w heneidiau; a'r hen aelwyd yn myned yn gysegr sancteiddiolaf i Arglwydd y lluoedd, yn nheimladau y tylwyth byth. Fe allai mai cyn pedair awr ar hugain y bydd rhyw adnod a ddarllenwyd iddynt o'r hen Feibl, yn astell i gynnal enaid rhyw un o honynt, yn nhònau cynddeiriog yr Iorddonen, pan y byddo braich tad a mam yn rhy fer ac yn rhy wan i estyn yr un ymwared.' Nid ydwyf fi yn gwneyd dim tebyg i gyfiawnder a'r darluniad; ac y mae yn anmhosibl rhoddi i mewn yr edrychiad, y llais, a'r teimlad ; ac ofer ceisio portreadu yr effeithiau. Ni chlywais hyd yn nod gan John Jones, Talsarn, ddim mwy effeithiol erioed. Yr wyf bron yn sicr nad oedd cymmaint ag un llygad sych yn yr holl gynnulleidfa.

Yr oedfa effeithiol arall, y daith hon, ydoedd yn Nhrefiraeth. Ei destyn yno oedd, Mi a roddais iddi amser i edifarhau, &c.' Darluniai amser fel cwmwl bychan, ar awyr las, lachar, y byd tragywyddol, yn ymddangos dros ychydig i wlawio amcanion y Goruchaf, ac yna yn diflanu. Wedi i'r cwmwl arllwys ei gynnwysiad, fe gliria yr awyr drachefn; ac ni bydd dim yn y golwg ond eangder difesur a diderfyn ffurfafen tragywyddoldeb ei hun.' Noswaith Sassiwn Abergwaen oedd hon. Nid oedd wedi cael nemawr o hwyl yn y Sassiwn, ond yr oedd yn lled farwaidd ar ei hyd. Eithr, y noswaith hon, fe gafodd hwyl pur dda. Yr oedd yno lawer o bregethwyr ac o flaenoriaid, o amrywiol fanau, yn cyfeirio tuag adref. Canwyd y penill ar ddiwedd yr oedfa lawer gwaith drosodd. Yr oedd bron a thori yn orfoledd cyfïredinol, ac ambell un, yma ac acw trwy y dorf, yn gwaeddi Diolch.'