Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/258

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan oeddem yn dyfod i lawr ar risiau y pulpud, dyna ryw hen frawd, yn y seat fawr, yn ceisio sadio ei hun, goreu y gallai, i ysgwyd llaw; ond yn methu ymattal, ac yn gwaeddi,—' Yr ydwy' i yn ddeg a thriugain oed, ac wedi gwrando llawer, trwy yr holl flynyddau hyn, ar Rowlands, Llangeitho, Robert Roberts o'r North, ac enwai liaws ereill o'r hen bregethwyr mwyaf tanllyd, ond ni chlywais erioed â'm clustiau y fath bethau a heno. Diolch i ti, Arglwydd, am gael byw hyd heno. Buaswn wedi cael colled fawr pe na chawswn fyw hyd heno. Diolch am yr efengyl. Diolch am Iesu Grist, hefyd. Ond, bendigedig fyddo dy enw byth am anfon gwyr y North atom ni!' Effeithiodd yr hen frawd hwn gymmaint ar John Jones, nes y gorfu iddo fyned o'r neilldu am ysbaid i chwerthin, er mwyn ychydig ymwared iddo ei hun.

Teimlai yn dra anfoddlawn fod y Sociniaid yn meddiannu cymmaint o Sir Aberteifi; a thybiai mai yr achos o hyny oedd, difrawder ac esgeulusdra gormodol yr amrywiol enwadau uniongred. Dywedai, yn fynych, ei fod yn tueddu i feddwl na ddylid gadael i'r un o bregethwyr Sir Aberteifi fyned ar gyhoeddiad o'u Sir, nes iddynt yn gyntaf ddiwreiddio y Sociniaid o'u gwlad. Pan y dygwyddai y ffordd fod yn mhell rhwng y naill gapel a'r llall, dywedai, y Sociniaid sydd ffordd yma mi wn; hwy lewygan' fy hen geffyl i.' Byddai yn teimlo yn hynod o anfoddlawn wrth basio Capelydd bychain. Sylwai, yn fynych, eu bod yn gwneyd annghyfiawnder mawr â lleoedd gweiniaid, trwy beidio trefnu cyhoeddiadau dieithriaid i fyned iddynt, gan y gallai hyny fod yn foddion effeithiol i godi yr achos yn eu plith. Y mae y lleoedd cryfion,' meddai, 'wedi laru ar bregethu; a'r lleoedd gweiniaid yn newynu yn eu hymyl.'

Mewn un man, * * * * pan aethom at y capel, nid oedd neb yn ymaflyd yn ein ceffylau, hyd nes y daeth rhyw fenywod o rywle i hyny, er fod yno lawer o ddynion yn sefyllian wrth y Capel. Ffromodd braidd at y dynion yn caniatau i ddieithriaid fod felly heb ddyfod atynt a rhoddi rhyw help iddynt ; ac, yn enwedig, na buasent yn cyffro wedi gweled y gwragedd yn cydio yn y gwaith: 'rhyw hanner barbariaid ydynt,' meddai. Wedi dyfod i'r tŷ, ar ol y bregeth, tyrent o'i gwmpas, bron a'i fygu, gan ganmol y bregeth braidd yn rhodresgar. Daeth rhyw wraig, gyfrifol yr olwg arni, a dywedai,—'yn wir, canmolwch chwi a fynoch ar y bregeth olaf, y peth hwnw,' gan ei adrodd, yn mhregeth y gwr ieuanc, a dynodd fwyaf o fy sylw i.' Wedi iddynt