Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/259

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymadael, dywedai, Onid oes llawer o ddynolryw yn ffyliaid gwenieithgar? Felly yr oedden' nhw yma, ac felly yn gyffredin, canmol yr olaf, sut bynnag y bô. Yr oedd y wraig yna yn gallach na nhw i gyd efo'u gilydd. Yr oedd y darn a adroddodd yn werth y ddwy bregeth i gyd." Ar ei ffordd, wrth ddychwelyd adref o'r daith hon, yr oedd yn dyfod i Gymdeithasfa Dolgelleu, yr hon a gynhelid Hydref 21 a'r 22, 1840, a'r hon, y flwyddyn hono, oedd yn Gymdeithasfa Chwarterol. Yr ydym yn cofio yn dda ei weled yn dyfod i mewn i'r ystafell, lle y cynnhelid cyfarfod y Pregethwyr, yn mhen rhyw gymmaint o amser wedi i'r cyfarfod ddechreu, a phan oedd Mr. Elias, mewn tymher dra ammheüus o syniadau athrawiaethol y nifer amlaf o'r pregethwyr ieuainc, yn traethu yn erwin yn eu herbyn. "Yr ydwyf fi," meddai, "wedi cael byw gyda'r Methodistiaid, bellach, yn agos i hanner can' mlynedd, agos hanner oes Methodistiaeth. Yn mhen hanner can' mlynedd eto fyddan' nhw ddim yn bod; a dyma eu lleiddiaid nhw, yn y fan yma," gan estyn ei law dros y pregethwyr ieuainc, oeddent yn eistedd o'i amgylch. Gyda ei fod yn dywedyd hyn, dyma Mr. John Jones yn dyfod i mewn. Fe ganfu ar unwaith, ar wedd y brodyr, fod rhyw bethau wedi eu dywedyd nad oeddent yn gwbl gymmeradwy gan bawb, na chan y nifer amlaf o lawer o'r rhai oeddent yn bresennol, er nad oedd ganddo un meddwl pa beth a allasai hyny fod. Fe lonyddodd teimladau pawb yn raddol, ac fe gafwyd cyfarfod, cyn y diwedd, a ystyrid yn dda ragorol. Mae yn fyw iawn yn ein meddyliau eto, yn enwedig y sylwadau a wnaed yno gan Mr. Ellis Phillips, Wrexham, ar " iawn gyfranu gair y gwirionedd ;" a chan Mr. Edwards o'r Bala, ar ddyledswydd 'y pregethwr i sefyll ar ochr Duw, gan gofio mai cenad dros Dduw at y bobl ydyw, ac nid dros y bobl at Dduw; ac, mewn unrhyw ymryson rhwng dynion a Duw, i beidio petruso mynyd pa blaid a gymmerer ganddo;' ac, yn neillduol, y sylwadau a wnaed gan Mr. John Jones ei hunan, ar yr angenrheidrwydd am gyfaddasu y weinidogaeth i amgylchiadau neillduol ac arbenig y gwrandaẅwyr, ac agwedd eu meddyliau ar y pryd.' Ar ol y Cyfarfod hwnw, ni a gawsom gyfleusdra i ymddiddan â Mr. John Jones. Yr oedd rhyw un wedi adrodd iddo yr hyn a ddywedasid gan Mr. Elias cyn iddo ef ddyfod i mewn, ac yr ydoedd wedi myned i deimlo yn dra annedwydd. "Y creaduriaid drwg yna o Sir Flint sydd yn cario chwedlau celwyddog i'r dyn; ac yntau, wedi myned i