Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu angaf ond dwy flwydd na'r henaf ond deunaw mlwydd oed, troes ati, a dywedodd wrthi, " Ymdrechwch eich goreu i ddal eich meddwl i fynu. Fe all yr Arglwydd eich cynnal, ac mi a wn y gofala efe am danoch. Yr wyf yn eich gweled yn hynod o alarus. Mae yn debyg eich bod yn methu gwybod pa beth a ddaw o honoch gyda'r plant wedi fy ngholli i. Ond, fy anwyl Elin, peidiwch a thrallodi dim am fy mhlant i. Yr wyf wedi eu rhoddi i'r Arglwydd. Y maent yn awr yn ei ofal ef. Bu yn galed iawn ar fy enaid yn eu cyflwyno iddo, o eisiau cael rhyw foddlonrwydd ei fod yn fy ngwrandaw ar eu rhan. Yn awr yr wyf wedi cael y boddlonrwydd hwnw. Daliwch chwi sylw, fe allai y cewch chwi fyw i weled hyny,–Mae yr Arglwydd yn sicr o roddi gras i fy mhlant i, a chwi a gewch weled hyny. Mae wedi dywedyd wrthyf y gwna hyny. Yr wyf yn dawel iawn wrth feddwl eich gadael yn ngofal yr Arglwydd, gan i mi gael boddlonrwydd ar eich rhan y bydd iddo ef ofalu am danoch. "Bendigedig a fyddo Duw, yr hwn ni thrôdd fy ngweddi oddiwrtho na'i drugaredd ef oddiwrthyf finnau. Ymnerthwch yn yr Arglwydd." Ac felly mewn hyder llawn fe hunodd yn yr Iesu pan onid wyth mlwydd a deugain oed. Fe'i claddwyd ef yn mynwent y plwyf, Dolyddelen, Mai 12, 1807.

Mam y Parchedig John Jones oedd Elinor, merch ieuangaf Richard Owen, Bertheos, Dolyddelen, a Margaret ei wraig. Nid ydym yn gwybod dim am deulu ei thad, Richard Owen; ond yr oedd ei mham, Margaret, yn ferch i Richard Isaac, Llanfrothen, Sir Feirionydd, a Gwen ei wraig; ac yr oedd Gwen hithau yn ferch henaf i William Prichard ac Angharad James, Parlwr, Penamman, Dolyddelen. Fe welir gan hyny, os sylwir ar y crybwylliad a wnaed am achau tad y Parchedig John Jones, ei fod ef o du ei dad a'i fam wedi disgyn oddiwrth William Prichard ac Angharad James. Yr oedd ei dad yn ŵyr iddynt trwy eu merch ieuangaf, a'i fam yn orwyres iddynt trwy eu merch henaf. Nid ydym yn gwybod dim am y William Prichard hwn, yn amgen na'i fod yn driugain oed ar ddydd ei briodas âg Angharad, pan nad oedd hi, oedd yn cael pen ei blwydd yr un dydd, ond ugain oed. Merch oedd hi i James Davies ac Angharad Humphreys, y rhai oeddent yn byw yn y Gelli Ffrydau, yn mhlwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon, tua dau can' mlynedd yn ol. Cyfrifid Angharad James yn wraig nodedig yn ei dydd, yn annghyffredin felly; o feddwl cryf ac athrylithgar, yn hynod o wrol a phenderfynol, ac wedi cael dysgeidaeth