Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/260

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ammheu ei frodyr, yn rhy barod i gredu pob dim am danynt. Ond pan y ceir y Cyfarfod, y mae sôn am dano, yn Sir Fflint, i edrych i mewn i'r cyhuddiadau, fe ddaw eu dichellion a'u celwyddau nhw i'r golwg. Mae yn hawdd gweled, wrth y cyfeiriad a wnaed gan Mr. Elias at bregeth Mr. Hughes neithiwr, ei fod ef yn dra gwahanol iddynt hwy; ac eto, ryw fodd, y maent yn gallu gwneyd llaw o hono i guro ar rai mil gwell na nhw 'u hunain. Ond fe fydd diwedd ar hyn yn fuan." Ni a ddylasem ddywedyd fod Mr. Elias, yn Nghyfarfod y y Pregethwyr, wedi rhoddi canmoliaeth annghyffredin i bregeth Mr. Hughes, y diweddar Mr. Hughes o Liverpool,—y nos waith o'r blaen yn y Capel. "Ni a gawsom, neithiwr," meddai, "yr hen efengyl, yn ei symledd ac yn ei phurdeb, ac heb arogl dim arni ond ei harogl hi ei hunan. Yr oedd mewn gwirionedd yn iechyd i fy ysbryd i gael y fath bregeth; ac yr ydwyf i agos a gobeithio fod dydd gwell yn ein haros ni eto." Yr oedd hyn yn yr un Cyfarfod ag y prophwydasai ein dinystr ni cyn pen hanner can' mlynedd ar ol hyny. Y noswaith hono, ar ol Mr. John Hughes, Pont Robert, yr oedd Mr. John Jones yn pregethu oddiar Philippiaid ii. 13. "Canys Duw yw 'r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef." Ac, mewn gwirionedd, ni a gawsom ganddo un o'r cyfansoddiadau ardderchocaf a draddodwyd ganddo ef neu gan neb arall erioed. Fe draethodd ar Waith yr Ysbryd,—yn yr angenrheidrwydd am dano, ei natur, ei foddion, a rhwymedigaethau dynion gydâ golwg arno,—gyda'r fath ysgrythyroldeb a goleuni a grym ac effaith, nad annghofir, ni a dybiwn byth, gan gymmaint ag un o'r rhai oeddent yn bresennol. Yr oedd yr holl gynnulleidfa yn y dymher oreu yn gwrandaw, a rhyw dynerwch mawr yn nheimladau pawb. Yr oedd yr hen frodyr, Mr. Elias yn enwedig, wrth eu bodd yn gwrandaw. Yr oedd Mr. Elias yn dywedyd, y noswaith hono, fod baich mawr a thrwm iawn wedi ei symmud, trwy y bregeth, oddiar ei feddwl ef. Ac yn Nghyfarfod y Pregethwyr a'r Blaenoriaid, am wyth drannoeth, fe ddywedodd, wrth ymddyddan ar y pwnc oedd dan sylw—Diwygiad Crefyddol,—" Ond i'r ddau wirionedd, oedd yn y pregethau neithiwr ac echnos, Crist Iesu wedi dyfod i'r byd i gadw pechaduriaid, a'u cadw trwy farw, eu cadw yn haeddiant ei aberth'; ac Ysbryd Crist yn gweithio ynom ni bob tueddiad at yr hyn sydd dda a sanctaidd,'—ond i'r ddau wirionedd hyn gael eu cadw yn fyw yn ein profiadau ein hunain, a'u codi i fynu yn uchel yn ein gweinidogaeth, nid rhaid i