Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/261

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni anobeithio, er fod holl uffern yn ein herbyn, am fuddugoliaeth lwyr yn y man. Rwy'n teimlo y gallaf fi fyned i'r glyn, ar ol Sassiwn Dolgelleu, yn fwy tawel fy meddwl am yr achos mawr." A dyma y Gymdeithasfa ddiweddaf y bu efe byth ynddi.

Ond yr oedd y cyffro oedd y pryd hyny yn y wlad yn nghylch yı athrawiaeth, a'r amheuaeth a goleddid gan laweroedd, fod lliaws o'r pregethwyr ieuainc yn encilio yn gyflym oddiwrth yr hen wirioneddau a ddysgid gan eu tadau, erbyn hyn, wedi effeithio yn ddirfawr ar feddwl Mr. John Jones; yn enwedig gan fod ambell un, yn awr ac eilwaith, yn ei gyhuddo ef o fod yn Arweinydd i'r cyfryw rai. Yr oedd yn teimlo yn fwy oddiwrth hyn, yn gymmaint a'i fod yn gwybod nad oedd y chwedlau a daenid ond hollol ddisail, ac yn cyfodi, yn y cyffredin, naill ai oddiar ddiffyg gallu i ddirnad ystyr rhyw sylwadau a wnelid ganddo ef ac ereill o'r rhai a gyhuddid; neu ynte, oddiar fwriad hollol i gamddarlunio. Ychydig iawn o iechyd a dderbyniodd efe i'w ysbryd ei hunan, hyd yn nod trwy y datganiadau a wnelsid gan Mr. Elias, yn Nghymdeithasfa Dolgelleu. Ac yr ydym ni ein hunain yn tueddu i dybied, can belled ag y mae ein côf yn myned am dano, y misoedd canlynol, fod arwyddion amlwg o'r gofid, a'r mesur o chwerwedd a deimlid ganddo yn ei ysbryd, i'w canfod ar ei weinidogaeth y pryd hwn. Yr oedd yn pregethu yn rhy fynych, megis un yn teimlo fel pe buasai rhyw rai yn ei wylio, ac am gael mantais ar ryw beth a ddywedai i geisio creu drwg-dybiaeth yn ei gylch, ac felly dinystrio ei ddylanwad yn y wlad. Yr un pryd, nid oedd hyny mewn un modd yn ei wneyd yn fwy gochelgar gyda golwg ar yr hyn a draddodai, nac yn llai penderfynol dros y golygiadau a goleddid ganddo: ond, yn hytrach i'r gwrthwyneb; yn peri iddo ymddangos fel pe am herio ei wrthwynebwyr i ymladd, ac yn fynych yn ei arwain i osod gwedd llawn mwy eithafol, ar yr hyn a bregethid ganddo, nag a wnelsai, pe na chawsai ei flino yn gymmaint ganddynt. Yr oedd yr ymddiried mawr a deimlid ganddo yn gyffredin yn ei wrandaẅwyr, a'r cyfeillgarwch a'r rhyddid oeddent bob amser o'r blaen, ac a ddaethant felly wedi hyn, mor amlwg rhyngddo â hwynt, yn ymddangos, ar hyn o bryd, fel wedi ei dori, ac yntau o gymmaint a hyny dan fwy o anfantais i wneuthur, trwy ei bregethau, y daioni iddynt a ddymunasai.

Yr oedd un peth arall yn neillduol, y pryd hwn, yn peri cryn bryder i'w feddwl ef ynnghydag ereill, oeddent fel yntau, yn tueddu i gym-