Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/262

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meryd golygiadau lled eang ar drefn yr efengyl, ac yn gryf dros ei chymhell, yn ei holl helaethrwydd, ar feddyliau eu holl wrandaẅwyr. Yn y dyddiau olaf, yr 28, 29, 30, a'r 31, o fis Gorphenaf, 1840, fe gynnaliwyd, yn Llanidloes, Gymmanfa Gorphoredig, yn gynnwysedig o gynnrychiolwyr o'r amrywiol Gyfarfodydd Misol, yn y Deheubarth a'r Gogledd, i gymmeryd dan sylw amryw faterion cysylltiedig â'r achos mawr, yn y Cyfundeb, trwy Gymru yn gyffredinol. Nid oedd Mr. Elias yn y Gymmanfa hono, ac nid oedd Mr. John Jones ychwaith ynddi. Yr oedd yno lythyr, pa fodd bynnag, oddiwrth Mr. Elias, yn dymuno galw sylw y Gymmanfa at yr ymrysonau a'r ymbleidiau oeddent yn ffynu y pryd hyny yn Sir Fflint, y rhai y dywedid eu bod yn tarddu oddiar syniadau gwahanol yn mhlith y brodyr yno ynnghylch athrawiaeth yr efengyl, a bod rhyw rai o Siroedd ereill yn cydymdeimlo â os nad yn blaid i'r rhai oeddent yno yn cael eu hammheu o fod yn gŵyro oddiwrth y gwirionedd. Pan ddygwyd yr achos hwn ger bron, fe deimlwyd ar unwaith ei fod yn agoryd cwestiwn ag oedd yn perthyn nid yn unig i Sir Fflint, ond, i raddau mwy neu lai, i agos bob Sir yn Ngogledd Cymru. Dygwyddai fod rhai o'r cyfeillion o'r Sir dan sylw, ag y tybid fod rhyw ŵyrni yn eu hathrawiaeth, ac, yn neillduol, y brawd ag yr oedd yr ammheuaeth mwyaf am dano, yn bresennol ar y pryd yn Llanidloes; ac yr oeddent hwy yn dadleu yn bendant, ac yn gryf,—fod yr awgrymiadau a gynnwysid yn y llythyr yn hollol ddisail, a bod yn sicr bod rhywrai wedi cam-arwain Mr. Elias yn yr achos, trwy ddwyn cam-gyhuddiadau, naill ai mewn anwybodaeth neu o ddrwg-fwriad, yn erbyn eu brodyr; fod yr achwyniadau yn erbyn y brawd a gyhuddid yn benaf wedi cael chwilio iddynt, er ys llawer o flynyddoedd o'r blaen, ac wedi syrthio, y pryd hyny, yn gwbl i'r llawr, ac nad oedd unrhyw sail i'r dybiaeth ei fod, ar ol hyny, wedi dywedyd dim yn amgen; fod yn ddrwg ganddynt ddywedyd eu bod yn ofni, fod yr ymrysonau yno, i'r graddau ag yr oeddent yn ffynu, yn gwreiddio mewn rhywbeth llawer mwy cnawdol nag unrhyw wahaniaeth mewn golygiadau ar athrawiaeth; nad oedd ganddynt hwy ddim i'w ofni oddiwrth unrhyw ymchwiliad, ond iddo fod yn fanwl ac yn deg ac yn onest, ac mai goreu po gyntaf ganddynt y cymmerai y cyfryw ymchwiliad le; ond nad oeddent mor sicr pa fodd y gallai y fath ymchwiliad derfynu gyda golwg ar y rhai oeddent trwy y blynyddoedd yn taenu chwedlau disail o berthynas iddynt, ac yn ceisio gwenwyno meddyliau gwyr goreu a