Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/263

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phenaf y Cyfundeb yn eu herbyn. Wedi cryn lawer o ymddyddan, gwelid nas gellid gwneyd dim o'r achos yn Llanidloes, ond cydolygwyd mai y peth goreu fyddai cael cyfarfod, yn Sir Fflint, cynnwysedig o frodyr dewisedig o holl Siroedd y Gogledd, a'r trefi cysylltiedig, i wneuthur. ymchwiliad manwl i holl amgylchiadau yr annghydfod, gyda llawn awdurdod i benderfynu, yn ol fel yr ymddangosai pethau iddynt hwy yn ol y tystiolaethau a gaffent yn y lle, ar y pryd. Yn y Gymdeithasfa a gynnaliwyd yn Mhwllheli, Medi 9, 10, 11, 1840, wedi cymmeryd yr achos drachefn i ystyriaeth, ac ar ol cryn ymddyddan, penderfynwyd cytuno â'r awgrym a roddasid yn Llanidloes, i gael y fath Gyfarfod yn Sir Flint, a bod i'r Siroedd ereill ddwyn enwau y rhai a ddymunent hwy i weithredu fel dirprwywyr drostynt, i wneuthur yr ymchwiliad hwn, i'r Gymdeithasfa ganlynol, yr hon oedd i'w chynnal yn Abergele, Ionawr 7fed, a'r 8fed, 1841. Yr oedd Mr. John Jones yn gwybod fod lliaws o'r hen frodyr yn tybied, ac yn dysgwyl, y byddai i'r Gynnadledd hono, pan y cynhelid hi, roddi terfyn tragywyddol ar yr ysbryd newydd cyfeiliornus ag ydoedd, fel y tybid, yn ymdaenu yn y Cyfundeb, ac yr oedd yn deall hefyd fod ymdrech dirfawr yn cael ei wneuthur, yn enwedig mewn rhai manau, i anfon gwyr yno ag oeddent adnabyddus bob amser fel rhai wedi cymmeryd rhan neillduol ac arbenig yn erbyn y rhai a ystyrid ar yr ochr rydd i'r ddadl yn Sir Flint; ac, oblegyd hyny, yr ydoedd mewn pryder mawr yn nghylch canlyniad y Cyfarfod oedd yn agoshau, ac weithiau yn tueddu i ofni y gallai derfynu mewn peri rhwyg yn y Cyfundeb, o leiaf yn y Gogledd, ag y cymmerid blynyddoedd i'w gyfanu, os gellid llwyddo i hyny byth. Ond, tuag at gynnorthwyo y darllenydd i ddeall yn fanylach pa fodd yr oedd pethau yn sefyll ar y pryd, a'r tir neillduol a gymmerid gan Mr. John Jones, a'r rhai a gyd-olygent âg ef, yn y dadleuon hyny, yr ydym yn tybied mai gwell fyddai i ni geisio rhoddi crynöad o hanes y Dadleuon Duwinyddol a gymmerasent le yn flaenorol yn ein gwlad, a'r rhai oeddent yn ddiammeuol wedi dylanwadu, naill ai yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, er ffurfio y dull o feddwl, yn gystal a thôn gyffredin y weinidogaeth, nid yn unig yn y Cyfundeb y perthynai efe iddo, ond yn mhlith yr enwadau Calvinaidd ereill yn Nghymru, tua'r amser y dechreuodd efe bregethu, ac am rai blynyddau ar ol hyny. Ac ni a awn at hyny yn y bennod nesaf.