Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/264

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XI.

DADLEUON DUWINYDDOL CYMRU: 1707—1841.

RHAN I.

Dadleuon rhwng Calviniaid ac Arminiaid: 1707—1831.

Hen Ymneillduwyr Cymru—dechreuad enciliad oddiwrth Galviniaeth—dadleuon yn mhlith yr Henaduriaethwyr—Mr. David Owen, Henllan—Mr. Jenkin Jones, Llwynrhydowen—dadleuon mhlith y Bedyddwyr—Mr. Abel Francis, Castell Newydd—Mr. Charles Winter, Hengoed—y Bedyddwyr yn ymwrthod â'r ddau, a heddwch yn cael ei adfer iddynt―cynnydd Arminiaeth yn mhlith yr Henaduriaethwyr—y Diwygwyr Methodistaidd Mr. Howell Harris a Mr. John Wesley—y ddadl Arminaidd gyntaf yn y Gogledd—Gweinidog o Eglwys Loegr a Mr. Thomas Jones—agwedd Crefydd yn niwedd y Ddeunawfed Ganrif—dyfodiad y Wesleyaid i Ogledd Cymru―ymweliadau o eiddo Mr. Wesley ei hunan a'r Gogledd—pregethu yn Nghaergybi a lleoedd ereill yn Sir Fôn—Mr. Edward Jones, Bathafarn, yn dechreu yr achos Cymreig—Mr. John Bryan yn cynnorthwyo—y Gynnadledd Wesleyaidd yn anfon Cenadon i Gymru—Mr. Owen Davies—Mr. John Hughes—ymrysonau yn dechreu—y dadleu cyntaf trwy y Wasg—Traethodau Arminaidd—Mr. Christmas Evans a'i "Wrth—feddyginiaeth yn erbyn gwenwyn Arminiaeth ""—atebiad iddo—Cyhoeddiad gwaith Mr. Wesley ar Ragluniaethiad—Mr. Benjamin Jones, Pwllheli, a'i "Ffynhonau'r Iachawdwriaeth" —"Drych Athrawiaethol " Mr. Thomas Jones—atebiad iddo gan Mr. Owen Daviesy ddadl yn parhau mewn amryw lyfrau gan y ddau―ereill yn dyfod allan—Mr. Thomas Davies, Cefn Bychan—Mr. John Parry, Caerlleon—Mr. John Roberts, Llanbrynmair—Mr. Christmas Evans eto—seibiant oddiwrth ddadleu am rai blynyddau— Mr. Samuel Davies yn tori'r heddwch â'i bregeth ar "Brynedigaeth Gyffredinol ""Ymddiddanion Thomas y Colier a Dafydd y Miner"—Mr. Edward Jones, Llantysilio, yn ateb—Mr. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) yn ateb Mr. Samuel Davies—"Calviniaeth wedi ei Dadlenu" gan Mr. Samuel Davies yn erbyn Mr. Evan Evans—pregethau Mr. Hurrion—Rhagymadrodd gan Mr. Elias—"Ymddiffynwr y Gwir" gan Mr. William Evans—"Sion y Wesley" a Mr. Roberts, Llanbrynmair, ac ereill—Mr. Edward Jones, Llantysilio, a'i "Dabl "—Mr. Edward Jones, Maes-y-plwm, a'i "Wïalen i gefn yr Ynfyd "—y dadleu yn raddol yn darfod—y gwahaniaeth yn parhau—teimladau gwell yn dechreu ffynu rhwng y pleidiau.

Yr oedd cryn lawer o ddadleu, yn cael ei ddilyn å chryn lawer o annghysur cymdeithasol, wedi bod yn mhlith yr Ymneillduwyr yn