Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/265

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Neheudir Cymru, cyn cyfodiad Methodistiaeth, ar y pynciau sydd yn gwahaniaethu yr Arminiaid oddiwrth y Calviniaid. Ar y cyntaf yr oeddent oll, wrth ba enw bynnag yr adnabyddid hwynt, pa un bynnag ai Henaduriaethwyr, ai Annibynwyr, ai Bedyddwyr, yn cofleidio y syniadau Calvinaidd, ac yn glynu yn ffyddlawn wrth y gwirionedd efengylaidd. Yn ol pob peth a allasom gael allan, nid oedd ond un gweinidog ymneillduol yn Nghymru, cyn dechreuad y ddeunawfed ganrif, yn cofleidio syniadau Arminaidd, a hwnw oedd un Henry Gregory, gweinidog i gynnulleidfa o Fedyddwyr, yn mhlwyf Llanddewi Ystradeni, Sir Faesyfed. Ond, tua dechreuad y ddeunawfed ganrif, fe ymlusgodd yr un syniadau i rai o'r eglwysi Henaduriaethol. Tua y flwyddyn 1696, fe neillduwyd un David Owen, amaethwr cyfrifol yn y gymmydogaeth, a brawd hynaf y Parch. James Owen, Croesyswallt, yn weinidog i'r eglwys yn Henllan, Sir Gaerfyrddin. Wedi bod yno yn llafurio yn ffyddlawn, a chyda mesur o lwyddiant am yn agos i ddeuddeng mlynedd, yn y flwyddyn 1707, fe ddechreuodd dadl frwd a hirfaith yn yr eglwys. Yr oedd y gweinidog, a dichon fod y nifer mwyaf o aelodau yr eglwys, yn tueddu at ryw syniadau lled lac gyda golwg ar y pynciau mewn dadl rhwng Arminiaid a Chalviniaid, ac yn hytrach, ni a dybiem, yn tueddu at Arminiaeth. Yr oedd yno, pa fodd bynnag, ddau o wyr galluog yn perthyn i'r eglwys, y rhai hefyd oeddent henuriaid athrawiaethol, ac felly yn arfer eu doniau fel pregethwyr, yn gystal â Matthias Maurice, pregethwr ieuanc, a'r pryd hyny yn fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin, y rhai oeddent uchel iawn eu syniadau Calvinaidd, ac yn Annibynwyr cryfion yn eu golygiadau ar ffurf-lywodraeth eglwysig. Ac nid bychan y dadleu oedd rhyngddynt a'u gilydd. Parhaodd yr ymrysonau hyn am dair blynedd,—hyd farwolaeth Mr. David Owen—ac yr oeddent yn ymestyn yn eu heffeithiau, fel y mae yn hawdd dyfalu, i eglwysi ereill, ac yn peri niwed dirfawr i grefydd. Cadwyd llawer cyfarfod yno gyda gweinidogion o fanau ereill i geisio heddychu y pleidiau, ond yn gwbl ofer. Yr oedd y gweinidogion, yr appelid atynt, yn tueddu yn hytrach i gefnogi y gweinidog, a'r rhai a gytunent âg ef; nid oblegyd eu bod yn cymmeradwyo eu golygiadau athrawiaethol, yn gymmaint ag oblegyd eu bod yn annghymmeradwyo ysbryd y blaid wrthwynebol, a'r eithafion yr oeddent yn gyru eu golygiadau iddynt. Dyma, pa fodd bynnag, ddechreuad y dadleuon, a derfynasant, yn mhen amser, mewn rhanu yr Annghydffurfwyr yn Neheudir