Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/266

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymru, ar y pynciau hyn, yn ddwy blaid,—Calviniaid ac Arminiaid. Yn y flwyddyn 1721, fe dderbyniwyd un Jenkin Jones yn fyfyriwr i Athrofa Caerfyrddin. Yr oedd efe, cyn myned i'r Athrofa, yn aelod o eglwys Pantycreuddyn, yn agos i Landysil, Sir Aberteifi, eglwys oedd y pryd hyny dan ofal y Parch. James Lewis, Pencader. Un Mr. Perrot oedd yn athraw y pryd hyny yn Nghaerfyrddin. Nid oedd efe ei hunan yn adnabyddus fel un yn cofleidio syniadau Arminaidd; ac eto y mae yn ymddangos fod naill ai yr addysg a weinyddid ganddo, neu, ynte, ei ddull yn ei gweinyddu, y fath ag i arwain y myfyrwyr oeddent dan ei ofal, gan mwyaf, i gofleidio y cyfryw syniadau. Felly, dybygid, y bu gyda Mr. Jenkin Jones. Yn fuan wedi ei ymadawiad â'r Athrofa, fe briododd foneddiges gyfoethog o Sir Aberteifi. Fe adeiladodd, ar ol hyny, gapel yn Llwynrhydowen, ar ei dir ei hunan; ac yn mis Ebrill, 1726, fe'i hordeiniwyd yn weinidog yno. Mae yn ansicr pa un a oedd, cyn ei neillduad, wedi dechreu gwneuthur yn gyhoeddus ei syniadau Arminaidd: y tebygolrwydd ydyw nad ydoedd; gan fod yn ammheus a gawsid neb, pe buasai hyny yn adnabyddus, a fuasai yn cymmeryd rhan yn ei neillduad. Pa fodd bynnag, gan ei fod yn wr ieuanc o dymherau ac ymddygiadau nodedig o hynaws, ac mewn amgylchiadau da, ac, yn neillduol, o ddoniau poblogaidd, fe gasglodd yn fuan gynnulleidfa led liosog; ac yr oedd arwyddion, ar y pryd, y cynnyddai yn ŵr o ddylanwad mwy na chyffredin yn mhlith ei frodyr. Ond, yn fuan wedi ei ordeinio, fe ddechreuodd gyhoeddi ei syniadau neillduol; ac ymosodai, yn y modd mwyaf penderfynol, yn erbyn y golygiadau Calvinaidd, yn enwedig ar Etholedigaeth, y Pechod Gwreiddiol, a Phrynedigaeth Neillduol. Am rai blynyddoedd, nid oedd ond efe ei hunan yn amddiffyn Arminiaeth o'r pulpud ac yn gyhoeddus, er y tybid fod amryw o'r gweinidogion ieuangaf, ac o'r myfyrwyr yn Nghaerfyrddin, yn cytuno âg ef. Yn mhen amser, fe gafodd rai o blith y Bedyddwyr, i ddyfod allan yn gyhoeddus o blaid ei olygiadau, yn enwedig un o'r enw, Abel Francis, yr hwn ar y cyntaf a fuasai yn weinidog i eglwys y Bedyddwyr yn Abertawy, ond a symmudasai i Gastell newydd Emlyn, lle yr ydoedd yn awr; ac un Rees Davies, Ysgolfeistr, ac aelod yn yr un eglwys; a Charles Winter, un o'r myfyrwyr yn Athrofa Caerfyrddin, ond yn aelod o eglwys y Bedyddwyr, yn Hengoed, Sir Forganwg. Yr oedd hyn yn ddechreuad dadleuon brwd, ac annghysur mawr. Yr oedd rhai o'r gweinidogion yn neillduol, yn