Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/267

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teimlo yn ddwys wrth ganfod y fath egwyddorion yn ymledu yn yr eglwysi. Mewn Cymmanfa a gynhaliwyd gan y Bedyddwyr, wythnos y Sulgwyn, 1729, yn Llangloffan, yn Sir Benfro, fe gymmerwyd i ystyriaeth ddifrifol pa beth a wneid yn ngwyneb yr ymadawiad hwn â'r ffydd, oedd yn awr yn bygwth eu heglwysi. Ac, yn mhlith pethau ereill, fe benderfynwyd dwyn allan yn ddioed ail—argraffiad, yn y Gymraeg, o waith Eliseus Cole,—ei "Draethawd ar Benarglwyddiaeth Duw,"—ac argraffiad hefyd o" Gatecism" gan Mr Benjamin Keach. Yr oedd traethawd Eliscus Cole wedi ei gyfieithu a'i argraffu ryw ddeunaw mlynedd cyn hyny, ac y mae yn ymddangos ei fod wedi cael lledaeniad go helaeth, pan y gwelwyd yn angenrheidiol cael ail—argraffiad o hono mor fuan. Cyhoeddwyd yn yr un flwyddyn, ni a dybiem, er nad oes yr un dyddiad wrtho, Draethodyn, heb enw ei awdwr, ond, wedi ei gyfansoddi, fel y tybir, gan Mr. Jenkin Jones, a elwid, "Y Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol:" yn yr hwn y dadleuid dros y syniad Arminaidd ar y pwnc, yn ei wedd iselaf, a chyda mesur annghyffredin o haerllugrwydd. Y flwyddyn ganlynol, fe gyhoeddwyd atebiad iddo, a'r wyneb-ddalen ganlynol:—"Y Cyfrif Cywiraf o'r Pechod-Gwreiddiol, i geisio rhagflaenu twyll a dichell rhyw bapurun Cableddus na fyn neb ei arddel, heb na Thad na Mam, ond y Press; heb nag Enw nac Amser wrtho, yn dwyn yr enw Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol, fel swm y peth y mae yn ei gynnwys yntho, yr hwn sydd yn llwyr annheilwng o'r fath enw: Can's y mae 'n cyfeiliorni yn ddirfawr yn ei gylch, ac yn crybwyll am bechod gweithredol Adda yn ei le ef. Argraphwyd Ynghaerfyrddin, gan Isaac Carter, mis Mehefin 27, 1730. Dros Mr. James Lewis a Mr. Christmas Samuel, gweinidogion yr Efengyl." Yr oedd Mr. James Lewis yn weinidog yr eglwys yn Mhen-cader, Sir Gaerfyrddin, yr eglwys yr oedd Mr. Jenkin Jones, cyn ei fynediad i'r Athrofa, yn aelod o honi. Yr oedd Mr. Christmas Samuel yn weinidog yr eglwys yn y Pant-têg, Sir Gaerfyrddin, lle y bu farw Mehefin 18, 1764, yn ddeng mlwydd a phed war ugain oed, wedi bod ar hyd ei oes faith yn ffyddlawn hollol i'r gwirionedd efengylaidd. Yr oedd y cynhwrf yn parhau yn nghylch yr athrawiaeth, mewn lliaws o eglwysi, ac ofnid fod llawer yn cydymdeimlo a'r syniadau newyddion oeddent yn ymwthio i mewn. Yr oedd eglwysi y Bedyddwyr yn Hengoed, Sir Forganwg, ac yn Nghastell Newydd, Sir Gaerfyrddin, yn neillduol yn cael eu poeni gan y dadleuon hyn. Yr oedd Mr. Charles