Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/268

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Winter, yr un y cyfeiriwyd ato uchod, wedi ei ddewis yn gyd-weinidog â ac yn gynnorthwywr i Mr. Morgan Griffiths yn Hengoed; ac yr oedd Mr. Abel Francis yn awr yn gyd-weinidog â Mr. Enoch Francis yn Nghastell newydd Emlyn. Yr oedd Mr. Enoch Francis a Mr. Abel Franeis yn berthynasau—yn gefnderyd, os nad yn frodyr—i'w gilydd; a'r naill a'r llall o dymherau addfwyn a hynaws, ac, fel dynion ac fel Cristionogion, yn hynod o gymmeradwy gan bawb a'u hadwaenent. Ond yr oedd Mr. Abel Francis yn Arminiad trwyadl, a Mr. Enoch Francis yn Galviniad cryf, a dadleuon mynych yn cymmeryd lle rhyngddynt. Yr un modd, yr oedd Mr. Morgan Griffiths yn Galviniad penderfynol, a Mr. Charles Winter yn Arminiad hollol, a dadleuon o'r un natur yn cymmeryd lle rhyngddynt hwythau. Fe wnaed, pa fodd bynnag, ryw fath o heddwch yn Hengoed, trwy i Mr. Charles Winter addaw peidio pregethu dim yn groes i Mr. Morgan Griffiths; tra y gwyddid, ac y cydnabyddid, nad oedd wedi newid dim yn ei farn. Fe barhäodd yr heddwch hwnw, pa fodd bynnag, hyd farwolaeth yr hen weinidog, yn 1749, pan y gwrthododd yr eglwys gymmeryd Mr. Winter yn weinidog yn ei le, ac y diarddelwyd ef, a phedwar ar hugain o'r aelodau a gydolygent âg ef, o'u cymundeb. Ar ol hyny hwy a ymffurfiasant, mewn lle a elwir Craig-y-fargod, yn agos i Ferthyr Tydfil, yn eglwys Arminaidd, ond yn sefyll yn erbyn Bedydd babanod fel yr oeddent o'r blaen. Fe ddiarddelwyd Mr. Abel Francis hefyd, a'r rhai a gytunent âg ef, o'r eglwys yn Nghastellnewydd; eithr yn lle ffurfio eglwys newydd o Fedyddwyr Arminaidd, hwy a ymunasant, gan mwyaf os nad oll, â'r eglwys oedd dan ofal Mr. Jenkin Jones yn Llwynrhyd Owen, a pharhäodd Mr. Abel Francis i gyd-lafurio âg ef yno, ac yn y wlad o amgylch, hyd ei farwolaeth, yn y flwyddyn, 1743.

Pan oedd yr ymrysonau hyn yn myned rhagddynt, fe gyhoeddodd Mr. Enoch Francis, yr hwn, fel y gwelsom, oedd yn weinidog i'r Bedyddwyr yn Nghastell newydd, draethawd lled alluog, er amddiffyn y golygiadau Calvinaidd ar y pynciau mewn dadl. Y mae ei wyneb-ddalen fel y canlyn:—"Gair yn ei bryd, neu ychydig o Eglurhad ar Ddirgeledigaethau ag sydd yn cael eu Datguddio yn yr ysgrythyrau, perthynol ac angenrheidiol idd eu gwybod, am ddoeth a da, uniawn a chyfiawn Arfaeth Duw, mewn perthynas i Gadwedigaeth a cholledigaeth pechaduriaid, yn gytunol âg Articlau Eglwys Loegr, ac â barn Difinyddion duwiol yn fwyaf cyffredinol. Gwedi eu