Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/269

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gosod allan gan un ag sy'n ewyllysio cynnorthwyo y Cymro uniaith i farnu 'n uniawn. Caerfyrddin: Argraffwyd gan N. T. a J. W. dros Enoch Francis, 1733." Y mae y llythyr at y darllenydd wedi ei ddyddio, "Pencelly, Ebrill 18, 1733." Y mae y llyfr yn cynnwys 214 o du dalenau, ac yn amcanu gosod allan yn dêg yr amrywiol olygiadau a goleddid yn nghylch y materion yr ymdrinir â hwynt; ac, yna, golygiadau yr awdwr ei hunan, a'r seiliau ysgrythyrol ar y rhai y gorphwysant. Mae tôn y llyfr yn hynod gymmedrol, heb arwyddo tuedd at ddim eithafol; ac, yn yr adran ar Brynedigaeth, yn sefyll dros ddigonolrwydd yn marwolaeth Crist i gadw holl ddynolryw, ond effeithiolrwydd i'r etholedigion yn unig; a bod" cyhoeddiad o iachawdwriaeth neu gynnygiad o fywyd, yn cael ei ddala allan, trwy'r Efengyl, i bawb a wir gredo yn Iesu Grist, tan yr enw o bechaduriaid." tudal. 137. [1] Er ceisio gwrthweithio dylanwad ac attal cynnydd syniadau Arminaidd yn Nghymru, fe gyhoeddwyd, yn mhen ychydig amser, lyfr a elwid, "Histori yr Heretic Pelagius. Yn yr hon y rhoddir cyflawn Hanes o'i Heresi ef. Dangosir, Y modd y torodd yr Heresi hono allan yn ddiweddar ym mysg y Protestaniaid: Y modd yr ydys yn gwyrdroi yr Ysgrythyrau tuag at eu Hamddiffyn. Hefyd, Y modd y cafodd ei dwyn i mewn (yn yr Oes ddiwaetha a aeth heibio) i'r Deyrnas hon. Gan S. T. Argraffwyd yn y flwyddyn 1735." Y mae yn llyfr bychan destlus ac ynddo 256 o dudalenau 24 plyg. Y mae tua ei hanner yn cynnwys "Histori Arminius." Nid oes sicrwydd pwy oedd yr S. T. a gyhoeddodd y gyfrol hon. Dywed awdwr "Llyfryddiaeth y Cymry" fod yn ddigon tebyg mai Samson Thomas, gweinidog Ymneillduedig yn Sir Benfro, ac awdwr yr "Oes—lyfr " ydoedd. Ond y mae Mr. Thomas Rees (History of Protestant Nonconformity in Wales) yn dywedyd mai Mr. Simon Thomas, gweinidog rhyw eglwys Annibynol yn Sir Henffordd, ydoedd. Pwy bynnag ydoedd, y mae yn amlwg ei fod yn teimlo yn gryf yn erbyn Arminiaeth, ac yn amcanu gwneyd ei ran tu ag at attal ei lledaeniad yn Nghymru.

  1. Wedi ysgrifenu ac argraffu y Nodiadau uchod, fe ddaeth i'n llaw gopi—ond, yn anffodus, copi anmherffaith—o argraffiad newydd o'r llyfr y cyfeiriwn ato, a ddygwyd allan dan olygiad Mr. David Jones, Caerdydd, ac a argraffwyd yno, yn y flwyddyn 1839, gan Ll. Jenkins. Y mae yr argraffiad newydd hwn yn cynnwys, heblaw y gwaith gwreiddiol, annerchiad byr o eiddo y Cyhoeddwyr; ychydig o Hanes Bywyd yr Awdwr; ynghyd a Chywydd a gyfansoddwyd ar yr achlysur o'i farwolaeth, gan un Mr. Jenkin Thomas, oedd ar y pryd yn Weinidog yr eglwys Henaduriaethol neu Annibynol, yn y Drewen.