Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uchel iawn. Nid ydym yn gwybod yn mha le y derbyniodd ei haddysg, ond yr oedd ei rhieni mewn sefyllfa led uchel yn y byd, ac o bosibl eu hunain yn gweled gwerth dysgeidiaeth, ac yn ofalus am roddi i'w merch y manteision goreu i hyny. Yr oedd Angharad James, pa fodd bynag, ryw fodd, wedi esgyn i'r hyn oedd yn mhell o fod yn gyffredin nid yn unig y dyddiau hyny, ond eto hefyd. Yr oedd yn gwbl hyddysg yn yr iaith Ladin, yn gyfarwydd iawn yn nghyfreithiau y deyrnas, ac yn cael ei chydnabod yn un o wybodaeth gyffredinol dra helaeth. Yr oedd rhai o'i llyfrau Lladin ar gael yn mhlith ei disgynyddion hyd yn dra diweddar, a dichon fod rhai o honynt eto. Yr oedd hefyd yn dra hoff o farddoniaeth, ac yn arfer cyfansoddi llawer ei hunan. Yr oedd llyfr helaeth o'i barddoniaeth ar gael hyd o fewn llai na hanner can' mlynedd yn ol, yn ei llaw-ysgrifen hi ei hunan. Bu yn menthyg yn nwylaw y diweddar Mr. Griffith Williams, Braich Talog, Llandegai, (Gutyn Peris), am dymhor, yr hwn a ddywedai ei fod yn hollol hysbys i'r hen feirdd, ac y gelwid ef y "Llyfr Coch," am mai âg inc coch yr ysgrifenasid ef. Yr oedd gan Angharad hefyd delyn, ac yr oedd yn dra hoff o chwareu arni. Cyn myned i orphwys y nos, ar yr awr bennodol, byddai raid i'r holl deulu, y gweision a'r morwynion, ddyfod yn nghyd i ddawnsio am ryw gymaint o amser, tra y byddai eu Meistres awdurdodol yn chwareu ar y delyn. Yr oedd hyn yn ddefod sefydlog, hâf a gauaf, fel dyledswydd deuluaidd. Pan fyddai y gwartheg, yn yr hâf, yn mhell oddiwrth y tŷ, tuag Aberleinw, elai Angharad gyda'i morwynion i odro; ac wrth ddychwelyd adref, rhoddid y beichiau llaeth i lawr mewn lle pennodol fel y gallent orphwys. Yna canai y feistres, tra yr ymroddai y morwynion i ddawnsio. Dyna oedd yr arferiad, pa un bynag ai ar wlaw neu hindda nid oedd un gwahaniaeth; yr oedd yn rhaid myned trwy y ddefod. A galwyd y lle hwnw yn "Glwt y Ddawns," hyd y dydd hwn. Yr oedd yn cael ei chyfrif yn wraig nodedig o foesol, ac, yn ol syniad yr amseroedd, yn dra chrefyddol; ac, oblegyd y cymeriad oedd iddi am ei dysgeidiaeth, a'i chydnabyddiaeth â chyfreithiau y deyrnas, yn nghyd a gwroldeb ei hysbryd, a'r dull arglwyddaidd ac awdurdodol oedd gwbl naturiol iddi, yr oedd gradd o'i harswyd ar yr holl wlad o'i hamgylch.

Yr ydym yn tueddu i feddwl ei bod hi a Gwilym Cynwal, yr hwn oedd yn byw yn Wybrnant, yn agos i gartref Angharad, nid yn unig yn gydoeswyr, ond o bosibl yn gyfeillion i'w gilydd. Yr oedd Gwilym